Adroddiad thematig |

Hyfforddiant ar gyfer adeiladu, cynllunio ar amgylchedd adeiledig - Hydref 2013

Share this page

Adroddiad thematig | 01/10/2013

pdf, 916.82 KB Added 01/10/2013

Diben yr arolwg thematig hwn yw rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru (LlC) ar safonau ac ansawdd presennol y ddarpariaeth ar gyfer adeiladu, cynllunio a’r amgylchedd adeiledig mewn sefydliadau addysg bellach (SABau) a darparwyr dysgu yn y gwaith, yn unol â’r hyn a ofynnwyd yn y llythyr cylch gwaith blynyddol i Estyn gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau.Mae’r adroddiad wedi’i fwriadu ar gyfer Llywodraeth Cymru ac arweinwyr, rheolwyr a staff darparwyr SABau a darparwyr dysgu yn y gwaith. Gallai fod o ddiddordeb i Gynghorau Sgiliau Sector (CSSau), undebau llafur, cyrff masnach a chyflogwyr ar draws y sector adeiladu hefyd. Mae’r adroddiad yn defnyddio’r ystod o dystiolaeth a nodir yn Atodiad 1, cwestiynau ar gyfer hunanarfarnu yn Atodiad 2 a chymariaethau data yn Atodiad 3.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • drafod gyda darparwyr i ariannu rhaglenni sy’n gweddu i anghenion y farchnad lafur; a
  • gwneud y fframwaith cymwysterau ar gyfer y sector adeiladu yng Nghymru yn fwy perthnasol i anghenion diwydiant trwy ddarparu dewis gwell o unedau dewisol yn ogystal ag elfennau craidd y rhaglen, a sicrhau bod y fframwaith yn cynnwys ffocws ar lythrennedd a rhifedd.

Dylai darparwyr addysg a hyfforddiant:

  • wella ansawdd eu rhwydweithiau a’u perthnasoedd gyda chyflogwyr lleol;
  • gwella’r gyfradd y mae dysgwyr yn cwblhau ac yn ennill eu cymwysterau a’u fframweithiau arni;
  • integreiddio llythrennedd a rhifedd yn llawn yn yr holl raglenni a gwneud yn siŵr bod athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr wedi’u paratoi i gefnogi anghenion llythrennedd a rhifedd dysgwyr;
  • herio dysgwyr i ddatblygu ac ennill medrau ymarferol a gwybodaeth am theori ar lefel uwch;
  • rhaglennu a threfnu lleoliadau profiad gwaith diwydiannol ar gyfer yr holl ddysgwyr amser llawn mewn sefydliadau addysg bellach;
  • defnyddio gwybodaeth am y farchnad lafur yn fwy effeithiol i baru’r ddarpariaeth â chyfleoedd cyflogaeth leol, gan reoli’r galw gan ddysgwyr trwy ddefnyddio cyngor ac arweiniad effeithiol; a
  • diweddaru profiad a gwybodaeth ddiwydiannol athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr yn rheolaidd.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol