Adroddiad thematig |

HMS Statudol mewn ysgolion - Mehefin 2013

Share this page

Adroddiad thematig | 01/06/2013

pdf, 543.71 KB Added 01/06/2013

Cyhoeddir yr adroddiad hwn mewn ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2012-2013. Mae’r adroddiad yn archwilio’r defnydd o’r pum niwrnod statudol a neilltuir ar gyfer hyfforddiant mewn swydd (HMS – acronym ar gyfer Hyfforddiant mewn Swydd) mewn ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig. Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos o arfer orau.Mae’r adroddiad wedi’i seilio ar dystiolaeth o ymweliadau â 15 o ysgolion, a chraffu ar ddata a chanlyniadau arolygu. Anfonwyd yr holiadur yn ôl i Estyn gan 76 o ysgolion a naw awdurdod lleol. Bwriedir yr adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru, penaethiaid a staff mewn ysgolion ac awdurdodau lleol. Gall hefyd fod o ddiddordeb i hyfforddwyr athrawon ac i awdurdodau addysg esgobaethol eglwysig.

Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • ganolbwyntio mwy ar flaenoriaethau cenedlaethol mewn gweithgareddau HMS, fel mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyflawniad;
  • gwneud yn siŵr bod cysylltiad agos rhwng yr HMS a’r blaenoriaethau a nodwyd ar gyfer gwella ysgolion;
  • chwilio am ffyrdd o gynnwys staff cymorth dysgu mewn HMS fel eu bod yn gallu cyfrannu’n llawn at wella ysgolion; a
  • gwella arfarnu HMS trwy fonitro ei effaith ar berfformiad staff a deilliannau disgyblion.

Dylai awdurdodau lleol:

  • gynorthwyo ysgolion wrth fonitro ac arfarnu effaith HMS; a
  • chasglu gwybodaeth am HMS effeithiol a’i ledaenu i bob ysgol.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ddarparu arweiniad i helpu ysgolion i fonitro ac arfarnu effaith HMS ar berfformiad disgyblion.