Adroddiad thematig |

Gwrando ar y gymuned: Pa mor dda y mae dayparwyr am ganfod anghenion dysgu oedolion yn eu cymunedau lleol? Gorffennaf 2009

Share this page

Nid oes gan y rhan fwyaf o ddarparwyr weithdrefnau cyson ar waith ar gyfer casglu barnau dysgwyr am ddarpariaeth yn eu hardal leol. Yn yr enghreifftiau gorau, mae dysgwyr yn cymryd rhan mewn cynllunio’r cwricwlwm ar bob lefel, ac mae darparwyr a rhwydweithiau yn defnyddio cyllid prosiect i nodi anghenion dysgu lleol.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • weithio gydag adrannau eraill Llywodraeth Cymru i egluro sut y gall darparwyr dysgu yn y gymuned ysgogi gwelliant i wasanaethau;
  • hyrwyddo astudiaethau hydredol o weithgarwch dysgu wedi’i greu gan y dysgwr i gofnodi deilliannau a hyrwyddo arfer dda; a
  • chreu panel cenedlaethol i ddysgwyr ar ddatblygu rhaglenni dysgu oedolion yn y gymuned

Dylai rhwydweithiau Dysgu Cymunedol:

  • ddefnyddio ymgynghori â dysgwyr yn fwy cyson i greu dinasyddion mwy ymgysylltiedig a gwybodus er mwyn hyrwyddo mwy o falchder, uchelgais ac atebolrwydd lleol yn eu cymunedau lleol.

Dylai darparwyr unigol:

  • wella cysondeb digwyddiadau ymgynghori ar gyfer dysgwyr; a
  • nodi cysylltiadau â’r rhwydwaith lleol er mwyn cydlynu gweithgareddau ymgynghori â dysgwyr gyda sefydliadau lleol eraill ac adrannau awdurdodau lleol.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol