Adroddiad thematig |

Gwasanaethau cymorth dysgwyr mewn colegau addysg bellach ar gyfer dysgwyr 16-19 oed

Share this page

Cyhoeddir yr adroddiad hwn i ymateb i gais gan Lywodraeth Cymru am gyngor yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2014-2015. Mae’r adroddiad yn bwrw golwg ar ansawdd, cysondeb a didueddrwydd y gwasanaethau cymorth dysgwyr y mae colegau addysg bellach yn eu darparu i ddysgwyr. Mae gwasanaethau cymorth dysgwyr yn cynnwys hyfforddiant ar gyfer dysgu, cymorth personol, a gwybodaeth a chyfarwyddyd gyrfaoedd. Yr adroddiad hwn yw’r ail o ddau. Cyhoeddodd Estyn yr adroddiad cyntaf ar wasanaethau cymorth dysgwyr i ddisgyblion 14-16 oed yn 2014, a oedd yn ystyried y gwasanaethau cymorth dysgwyr y mae ysgolion yn eu darparu i ddysgwyr yng nghyfnod allweddol 4.

Argymhellion

Dylai colegau addysg bellach:

  • A1 ddatblygu dull cyffredin o fesur cyflawniadau dysgwyr, gan gynnwys eu cynnydd yn erbyn yr amcanion a amlinellir yn Fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith (2008) Llywodraeth Cymru (gweler Atodiad 2)

Dylai awdurdodau lleol:

  • A2 wneud yn siŵr bod pob dysgwyr yn gwybod am yr ystod gyfan o opsiynau ôl-16 sydd ar gael iddynt
  • A3 gwneud yn siŵr bod colegau’n cael gwybodaeth amserol am gyflawniadau ac anghenion cymorth dysgwyr sy’n symud ymlaen i addysg bellach

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A4 weithio gydag ysgolion, colegau, Gyrfa Cymru ac awdurdodau lleol i ddatblygu

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol