Adroddiad thematig |

Effeithiolrwydd trefniadau is-gontractio mewn dysgu yn y gwaith - Tachwedd 2011

Share this page

Adroddiad thematig | 01/11/2011

pdf, 713.97 KB Added 01/11/2011

Roedd tua hanner y darparwyr dysgu yn y gwaith yn gweithio’n effeithiol gyda’u his-gontractwyr. Yn y darparwyr hyn, roedd lefelau uchel o gyflawniad ymhlith dysgwyr, ac roedd staff yn nodi a rhannu arfer dda gyda sefydliadau eraill hefyd.Fodd bynnag, roedd gormod o ddarparwyr yn canolbwyntio ar gyflawni eu contract yn hytrach nag ar brofiad y dysgwr unigol. At ei gilydd, mae’r ddarpariaeth yn amrywio gormod o un darparwr I’r llall.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • atgyfnerthu eu cyngor ar sut i reoli is-gontractwyr fel rhan o arweiniad Fframwaith Ansawdd ac Effeithiolrwydd yr AdAS.

Dylai darparwyr arweiniol dysgu yn y gwaith:

  • wneud yn siwr bod pob dysgwr yn cael hyfforddiant cyson dda ar draws pob is-gontractwr;
  • alinio systemau sicrhau ansawdd is-gontractwyr gyda’u systemau sicrhau ansawdd eu hunain lle bynnag y bo modd;
  • datblygu systemau i nodi a rhannu arfer dda; a
  • ystyried deilliannau holiaduron boddhad dysgwyr i gywiro unrhyw ddiffygion a nodwyd.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.