Adroddiad thematig |

Effeithiolrwydd strategaethau ar gyfer cynnwys y dysgwyr mewn dysgu ôl-16 oed - Mai 2012

Share this page

Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr yn gwneud defnydd da o ddulliau, yn cynnwys grwpiau cynrychioliadol ffurfiol, eiriolwyr dysgwyr, ymgynghoriadau, holiaduron ac arolygon, i ymgysylltu ag ymgynghori â dysgwyr am eu profiad dysgu a’r amgylchedd. Yna, caiff y canfyddiadau yn sgil ymgysylltu â dysgwyr yn y fath fodd eu defnyddio i gynllunio gwelliannau mewn gwasanaethau a chyrsiau i fyfyrwyr.Fodd bynnag, canfu arolygwyr nad oedd yr un darparwr yn y sector ôl-16 wedi rhoi systemau ar waith i fonitro ac arfarnu manteision cynnwys y dysgwr i ddysgwyr unigol.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • adolygu gofynion adroddiad hunanasesu blynyddol y darparwr er mwyn dal deilliannau strategaethau cynnwys y dysgwr yn llawnach;
  • adolygu prosiect cynrychiolaeth myfyrwyr addysg bellach Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr i asesu ei effaith ar ddysgwyr;
  • monitro gweithredu strategaethau cynnwys y dysgwr ar lefel y darparwr;
  • gweithredu prosiectau cynrychiolaeth dysgwyr ar draws y sector ôl-16 oed i hyfforddi dysgwyr i weithredu fel eiriolwyr/cynrychiolwyr dysgwyr a sicrhau ymglymiad corff ehangach o ddysgwyr; a
  • sefydlu fforymau dysgwyr sector ar lefel genedlaethol er mwyn galluogi dysgwyr i lywio natur a chwmpas eu dysgu.

Dylai darparwyr mewn sectorau ôl-16 oed:

  • sefydlu systemau ar gyfer cofnodi ystod y deilliannau sy’n cael eu cyflawni gan ddysgwyr, gan gynnwys y manteision personol a chymdeithasol, o ganlyniad i gymryd rhan mewn gweithgareddau cynnwys y dysgwr;
  • gwella’r systemau ar gyfer monitro dysgwyr er mwyn nodi effaith cymryd rhan mewn gweithgareddau cynnwys y dysgwr ar ddysgwyr unigol; a
  • chefnogi dysgwyr i gymryd rhan mewn rhwydweithiau cynnwys y dysgwr ar lefel leol a chenedlaethol.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol