Adroddiad thematig |

Dysgu digidol a dysgu ar-lein mewn colegau addysg bellach - mewnwelediadau hydref 2022

Share this page

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau o ymweliadau ymgysylltu arolygwyr
cyswllt a galwadau a wnaed i golegau addysg bellach (AB) rhwng mis Hydref a mis
Rhagfyr 2022 gyda ffocws ar ddysgu ar-lein a dysgu digidol. Mae’r adroddiad wedi’i
seilio ar y wybodaeth a drafodwyd yn ystod cyfarfodydd wyneb yn wyneb a
chyfarfodydd ar-lein gydag uwch arweinwyr, arweinwyr canol, athrawon, arweinwyr
digidol, a grwpiau bach o ddysgwyr. Y ffocws ar gyfer trafodaethau oedd dysgu arlein
a dysgu digidol o ran graddau’r defnydd, datblygiadau diweddar, sicrhau
ansawdd, dysgu proffesiynol, a gweithio mewn partneriaeth. Mae’r canfyddiadau o
fewn yr adroddiad hwn yn adeiladu ar y rhai yn ein hadroddiad Datblygiadau mewn
arferion dysgu o bell a dysgu cyfunol (Estyn, 2021).

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol