Adroddiad thematig |

Dilyniant ieithyddol a safonau’r Gymraeg mewn deg ysgol ddwyieithog - Tachwedd 2014

Share this page

Mae’r adroddiad hwn yn ymateb i gais am gyngor yn llythyr cylch gorchwyl blynyddol Estyn gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar gyfer 2013-2014. Pwrpas yr adroddiad yw: adrodd ar ddilyniant ieithyddol disgyblion cyfnod allweddol 4 o ran astudio Cymraeg fel iaith gyntaf a chymwysterau eraill drwy’r Gymraeg; arfarnu effeithiolrwydd modelau cwricwlaidd a dulliau addysgu sydd ar waith mewn ysgolion dwyieithog; ac adnabod a rhannu arfer dda o ran addysg ddwyieithog.Mae’r adroddiad yn seiliedig ar ymweliadau i ddeg ysgol, cyfweliadau â chynrychiolwyr awdurdodau lleol, dadansoddiadau o ddata perfformiad ysgolion a thystiolaeth o adroddiadau arolygiadau. Gweler Atodiad 1 am fwy o wybodaeth am sail y dystiolaeth. Prif ffocws yr adroddiad yw’r awdurdodau lleol lle ceir y mwyaf o addysgu dwyieithog, sef awdurdodau Caerfyrddin, Ceredigion, Ynys Môn a Gwynedd.Ar gyfer yr adroddiad hwn, rydym yn diffinio gwers ddwyieithog fel un sydd yn cynnwys elfennau o’r addysgu a’r dysgu drwy’r Gymraeg a Saesneg.

Argymhellion

Dylai ysgolion dwyieithog:

  • osod targedau i gynyddu’r gyfran o ddisgyblion cyfnod allweddol 4 sydd yn dal i astudio Cymraeg iaith gyntaf ac yn dilyn eu cyrsiau drwy’r Gymraeg;
  • ehangu’r arlwy o gymwysterau maent yn eu cynnig drwy’r Gymraeg;
  • esbonio manteision dilyn cyrsiau drwy’r Gymraeg i ddisgyblion a rhieni a sicrhau bod rhieni yn cael eu cynnwys fwy yn addysg eu plant;
  • cydweithio gydag ysgolion eraill i gynhyrchu adnoddau dysgu Cymraeg, ac i drafod a rhannu strategaethau addysgu dwyieithog;
  • sicrhau bod datblygu medrau Cymraeg disgyblion yn flaenoriaeth ysgol-gyfan a chynllunio’n fwriadus er mwyn hyrwyddo defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg;
  • annog athrawon ar draws y pynciau i hyrwyddo defnydd disgyblion o’r Gymraeg yn y gwersi a thu hwnt; a
  • sicrhau bod athrawon ar draws y pynciau yn talu sylw i gywirdeb ac ansawdd mynegiant disgyblion yn y Gymraeg.

Dylai awdurdodau lleol:

  • olrhain fesul ysgol y cyfrannau o ddisgyblion cyfnod allweddol 4 sy’n dilyn cyrsiau drwy’r Gymraeg a gosod targedau i gynyddu hyn yn ôl amcanion eu strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg; a
  • cynorthwyo ysgolion i drafod, datblygu a rhannu’r strategaethau addysgu dwyieithog mwyaf effeithiol.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • sicrhau bod adnoddau addysgol o ansawdd uchel Cymraeg ar gael ym mhob pwnc ar yr ‘Hwb’;
  • codi ymwybyddiaeth o fanteision dwyieithrwydd ac o barhau i astudio pynciau drwy’r Gymraeg; a
  • sicrhau bod byrddau arholi yn cyhoeddi dogfennau arweiniad a chynlluniau marcio i athrawon yn y Gymraeg ac yn paratoi cwestiynau mewn ieithwedd glir yn eu papurau arholiadau cyfrwng Cymraeg.

Astudiaethau achos o arfer orau

 

  • Ysgol Gyfun Bodedern, Ynys Môn
  • Ysgol David Hughes, Ynys Môn
  • Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn
  • Ysgol Gyfun Aberteifi, Ceredigion
  • Ysgol Gyfun Bro Pedr, Ceredigion
  • Ysgol y Moelwyn, Gwynedd
  • Awdurdod Lleol Gwynedd

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol