Adroddiad thematig |

Difreintedd disgyblion - Mai 2014

Share this page

Adroddiad thematig | 01/05/2014

pdf, 747.86 KB Added 01/05/2014

Diben yr adroddiad hwn yw crynhoi’r prif negeseuon o adroddiadau Estyn ar fynd i’r afael â thlodi ac anfantais mewn ysgolion. Rhwng 2007 a 2009, cyhoeddwyd tri adroddiad gan Estyn a oedd yn arfarnu’r ffordd yr oedd ysgolion yn defnyddio cyllid Rhagori. Dilynwyd hyn yn 2010 gydag adroddiad a oedd yn nodi enghreifftiau o arfer effeithiol ac yn gwneud awgrymiadau ynghylch camau pellach y gellid eu cymryd i wella perfformiad dysgwyr dan anfantais. Er 2011, mae Estyn wedi llunio cyfres o dri adroddiad cysylltiedig ar y pwnc, a chyhoeddwyd y diweddaraf o’r rhain yn Rhagfyr 2013. Roedd y tri adroddiad diweddarach hyn yn cynnwys llawer o astudiaethau achos sy’n gallu rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i ysgolion am arferion llwyddiannus.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol