Adroddiad thematig |

Dewis a hyblygrwydd I ddysgwyr 14-19 oed - Mawrth 2008

Share this page

Adroddiad thematig | 01/03/2008

pdf, 239.09 KB Added 01/03/2008

Mae’r dewis o gyrsiau sydd ar gael i ddysgwyr yn cynyddu. Yr enghraifft orau yw ble mae ysgolion a cholegau wedi cynllunio darpariaeth gyda’i gilydd. Fodd bynnag, nid oes gan y rhan fwyaf o ddysgwyr yr hyblygrwydd i ddewis o’r ystod lawn a’r math o gyrsiau sydd ar gael yn eu hardal. Mae eu cyfleoedd yn dibynnu’n ormodol ar y cyrsiau a gynigir gan y darparwyr y maent yn eu mynychu.Mae’r ddarpariaeth yn y sector ôl-16 yn fwy amrywiol. Gall bron pob dysgwr ddewis cyrsiau sy’n eu galluogi i ddilyn y llwybr dysgu o’u dewis.

Argymhellion

Dylai darparwyr:

  • sicrhau bod eu hamserlenni yn cyd-fynd â rhai darparwyr eraill ac ystyried y bylchau mewn dewislenni opsiynau lleol wrth gynllunio eu darpariaeth;
  • rhoi gwybodaeth glir, gywir a diduedd i ddysgwyr am y dewisiadau sydd ar gael iddynt; a
  • chynyddu’r ystod o gyrsiau galwedigaethol sydd ar gael i bob dysgwr.

Dylai rhwydweithiau:

  • sicrhau bod gan bob darparwr, staff, dysgwr a rhiant ddealltwriaeth glir o Lwybrau Dysgu 14-19 ac o’r dewisiadau sydd ar gael i ddysgwyr; ac
  • archwilio ffyrdd o gael ymglymiad llawn darparwyr dysgu yn y gwaith.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ddatblygu strategaeth gyfathrebu er mwyn sicrhau bod darparwyr, dysgwyr a rhieni yn cael eu hysbysu’n well am ddiben Llwybrau Dysgu 14-19 a dewislenni opsiynau.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol