Adroddiad thematig |

Dewis enhangach a'r craidd dysgu: cynydd wrth weithredu dewis enhangach o opsiynau a'r craidd dysgu ar gyfer dysgwyr 14-19 oed - Awst 2010

Share this page

Mae dewis ac ystod ehangach o gyrsiau i ddysgwyr 14-19 oed wedi helpu gwella cyrhaeddiad a chymhelliant mewn ysgolion. Mae nifer gynyddol o gyrsiau i ddysgwyr ddewis ohonynt, ac mae llawer mwy o gydweithio rhwng darparwyr.Fodd bynnag, mae gormod o amrywiad yn ystod a nifer y cyrsiau a gynigir i ddysgwyr mewn gwahanol ardaloedd. Mae hyfywedd cyfyngedig mewn gormod o gyrsiau, naill ai gan eu bod dim ond yn denu nifer fach o ddysgwyr, neu am fod yr un ddarpariaeth eisoes ar gael yn yr un ardal.

Argymhellion

Dylai darparwyr:

  • weithio’n agosach i wneud y gorau o ddewis a hyblygrwydd;
  • gwneud yn siŵr bod pob dysgwr yn cael cyngor diduedd pan fyddant yn gwneud dewisiadau yn 14 ac 16 oed; a
  • chyflawni pob agwedd ar y craidd dysgu, yn enwedig medrau allweddol, medrau Cymraeg a phrofiad â ffocws gwaith.

Dylai rhwydweithiau:

  • fonitro ac arfarnu hawl dysgwyr; ac
  • arfarnu ansawdd ac effeithiolrwydd darpariaeth gydweithredol.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • gefnogi darpariaeth cyrsiau galwedigaethol cyfrwng Cymraeg ymhellach.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol