Adroddiad thematig |

Datblygu'r Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen - Ionawr 2013

Share this page

Adroddiad thematig | 02/01/2013

pdf, 1.34 MB Added 02/01/2013

Paratowyd yr adroddiad hwn mewn ymateb i gais am gyngor yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2011-2012. Ei ddiben yw: adrodd ar weithredu Maes Dysgu Datblygu'r Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen mewn ysgolion a lleoliadau nas cynhelir; ac amlygu enghreifftiau or arfer gorau.

Argymhellion

Dylai ysgolion a lleoliadau:

  • sicrhau bod digon o amser yn cael ei neilltuo i addysgu’r Gymraeg yn uniongyrchol;
  • cynllunio cyfleoedd da i ddisgyblion ddefnyddio’r Gymraeg mewn meysydd dysgu eraill ac mewn gweithgareddau awyr agored;
  • cynyddu lefel y medrau sydd eu hangen i ddatblygu Cymraeg ysgrifenedig disgyblion;
  • monitro darpariaeth a chynnydd o ran Datblygu’r Gymraeg; a
  • darparu cyfleoedd i ymarferwyr wella eu medrau Cymraeg a’u medrau addysgu iaith.

Dylai awdurdodau lleol:

  • ddarparu cymorth a hyfforddiant mewn Datblygu’r Gymraeg i benaethiaid, arweinwyr ac ymarferwyr arweiniol y Cyfnod Sylfaen;
  • sicrhau bod mwy o gymorth a hyfforddiant yn y Gymraeg ar gael i ymarferwyr, yn enwedig mewn lleoliadau nas cynhelir; a
  • rhannu arfer dda o ran Datblygu’r Gymraeg.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • adolygu pa un a ddylai Dangosydd Deilliannau’r Cyfnod Sylfaen fesur cynnydd plant o ran Datblygu’r Gymraeg;
  • datblygu hyfforddiant iaith ac addysgeg ychwanegol yn y Gymraeg i ymarferwyr mewn lleoliadau nas cynhelir; a
  • darparu mwy o ddeunyddiau enghreifftiol o arfer dda ym maes Datblygu’r Gymraeg.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol