Adroddiad thematig |

Datblygu arweinyddiaeth – astudiaethau achos o ddysgu proffesiynol ar gyfer arweinyddiaeth ysgolion

Share this page

Mae’r adroddiad wedi’i fwriadu ar gyfer Llywodraeth Cymru, penaethiaid a staff mewn ysgolion, a gallai fod o ddiddordeb i awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol, yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a sefydliadau eraill. Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos manwl am y cyfleoedd dysgu proffesiynol a ddarperir ar gyfer staff mewn naw ysgol ledled Cymru.

Argymhellion

I wella darpariaeth ac ansawdd datblygu arweinyddiaeth, dylai consortia rhanbarthol a darparwyr dysgu proffesiynol eraill weithio gyda’i gilydd i ystyried:

  • A1 Sut i gynyddu’r ffocws ar ddatblygu gallu arweinwyr i ysgogi gwelliant yn ansawdd addysgu a dysgu
  • A2 Sut orau i werthuso effaith rhaglenni datblygu arweinyddiaeth dros gyfnod

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol