Adroddiad thematig |

Darpariaeth Gymraeg a dwyieithog ar gyfer dysgwyr 14-19 oed - Mai 2008

Share this page

Adroddiad thematig | 01/05/2008

pdf, 373.87 KB Added 01/05/2008

Mae’r mwyafrif helaeth o gymwysterau cyffredinol ar gael yn Gymraeg. Fodd bynnag, nifer fach iawn o gymwysterau galwedigaethol sydd ar gael yn Gymraeg o’i gymharu â’r nifer sydd ar gael yn Saesneg. Mae prinder arholwyr a gwirwyr sy’n medru’r Gymraeg, sy’n cyfyngu ar nifer y cymwysterau cyfrwng Cymraeg y gellir trefnu eu bod ar gael.Mae nifer gynyddol o ddarparwyr yn cyflwyno addysgu dwyieithog fel ffordd o ymestyn darpariaeth cyfrwng Cymraeg, ond mae gormod o amrywiad yn ansawdd yr addysgu dwyieithog.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • nodi data gwaelodlin a gosod targedau ar gyfer rhwydweithiau 14-19 i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a monitro cynnydd yn erbyn y targedau hynny; a
  • hyrwyddo adnoddau cyfrwng Cymraeg ar-lein newydd a chodi ymwybyddiaeth darparwyr am yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd.

Dylai’r rhwydweithiau 14-19:

  • nodi bylchau a gwendidau mewn darpariaeth Gymraeg ar draws darparwyr a gosod targedau i fynd i’r afael â nhw; a
  • hysbysu darparwyr a dysgwyr am gymwysterau sydd ar gael yn Gymraeg.

Dylai darparwyr:

  • farchnata eu cyrsiau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn fwy gweithredol;
  • arfarnu cost-effeithiolrwydd cyrsiau, a chydweithio mwy i ddarparu cyrsiau cyfrwng Cymraeg ar y cyd â darparwyr eraill pan fydd niferoedd yn isel, er enghraifft, trwy ymestyn y defnydd o athrawon peripatetig; a
  • chynyddu cymorth tiwtoriaid i ddysgwyr sy’n dilyn cyrsiau dysgu o bell trwy fideo-gynadledda neu e-ddysgu.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol