Adroddiad thematig |

Darpariaeth gwasanaethau a chyfleusterau bro gan ysgolion - Mai 2008

Share this page

Adroddiad thematig | 01/05/2008

pdf, 348.34 KB Added 01/05/2008

Mae cyllid ysgolion bro (YB) wedi galluogi ysgolion ac awdurdodau lleol i adeiladu ar eu harfer bresennol i ddatblygu perthynas rhwng yr ysgol a’r gymuned y maent yn ei gwasanaethu. Mewn rhai ysgolion ac awdurdodau lleol, fodd bynnag, lleihawyd effaith y cyllid trwy ddyrannu’r cyllid i ormod o ysgolion.Nid yw’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn monitro ac yn arfarnu eu cynnydd wrth sefydlu ysgolion bro effeithiol. Ni allant osod targedau ar gyfer gwella, na defnyddio eu data i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae ansicrwydd ynglÅ·n â dyfodol trefniadau ariannu YB wedi ei gwneud yn anodd cynllunio cyllid ar gyfer y tymor canolig a’r tymor hwy.Ledled Cymru gyfan, y prif fudd i gymunedau lleol fu mynediad gwell i adeiladau ac adnoddau ysgolion, yn enwedig ar gyfer ymarfer corff a TGCh. Mae gwelliant wedi bod yn y berthynas rhwng ysgolion a’u cymunedau lleol hefyd.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • egluro trefniadau ariannu ar gyfer YB yn y dyfodol a sicrhau bod y trefniadau’n cefnogi cynllunio tymor canolig a thymor hir awdurdodau lleol; a
  • sicrhau bod trefniadau ariannu yn y dyfodol yn hyrwyddo amcanion YB Llywodraeth Cymru yn fwy cadarn.

Dylai awdurdodau lleol:

  • sicrhau eu bod yn ymgorffori eu strategaethau YB yn gadarn mewn blaenoriaethau, polisïau a chynlluniau corfforaethol; a
  • gweithio’n agosach gyda phartneriaid strategol allweddol, yn enwedig iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Dylai ysgolion:

  • ddwysáu eu hymdrechion i weithio gyda theuluoedd i wneud dysgu’n ddymunol i bobl o bob oedran;
  • dwysáu eu gwaith i wella eu henw da yn y gymuned leol a phwysleisio gwerth cyfleoedd addysgol; a
  • chynyddu mynediad cymunedol i’w cyfleusterau.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol