Adroddiad thematig |

Cydweithio rhwng ysgolion a dosbarthiadau chwech a Cholegau Addysg Bellach - 2006

Share this page

Mae sawl rheswm pam mae yna ychydig iawn o gydweithio, os o gwbl, rhwng rhai ysgolion a cholegau, sy’n amrywio o anawsterau yn ymwneud â chludiant i gystadlu am ddysgwyr. Mae ysgolion yn tueddu i elwa mwy ar gydweithio na cholegau, gan fod cydweithio yn galluogi ysgolion i gadw mwy o ddysgwyr yn eu chweched dosbarth.Mewn trefniadau cydweithredol ac anghydweithredol fel ei gilydd, mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn fodlon â’u cyrsiau ac â’r cymorth a’r arweiniad a gânt. Mae tua dau o bob tri dysgwr yn teimlo y cawsant wybodaeth ddefnyddiol i’w helpu i ddewis eu cwrs, ond roedd nifer fach o ddysgwyr yn teimlo y cawsant gyngor unochrog.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • greu cyrff cynllunio a all wneud penderfyniadau strategol am natur y ddarpariaeth mewn ardal;
  • sicrhau bod mwy o gydweddu rhwng y mecanweithiau cyllid ar gyfer darpariaeth cyn-16 ac ôl-16; ac
  • annog AALlau i weithio gyda phob partner i adolygu natur y ddarpariaeth yn eu hardal.

Dylai awdurdodau lleol:

  • weithio gyda phob partner i adolygu natur y ddarpariaeth yn eu hardal.

Dylai ysgolion a cholegau:

  • weithio gyda’i gilydd er lles dysgwyr yn eu hardal trwy helpu rhesymoli a chydlynu darpariaeth; ac
  • archwilio’r modd y gall gweithgareddau cydweithredol gynyddu ystod y cyrsiau galwedigaethol a gynigir.

Dylai ysgolion:

  • sicrhau bod dysgwyr yn cael gwybodaeth a chyngor llawn, teg a diduedd am y dewisiadau sydd ar gael iddynt yn 16 oed.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.