Adroddiad thematig |

Cefnogi Llwybrau Dysgu - Gorffennaf 2008

Share this page

Adroddiad thematig | 01/07/2008

pdf, 320.91 KB Added 01/07/2008

Mae cwmnïau Gyrfa Cymru yn cyfrannu’n dda at bartneriaethau strategol gyda sefydliadau eraill i wella cynllunio 14-19. Maent yn cefnogi Rhwydweithiau Dysgu, ac maent yn tynnu sylw Llywodraeth Cymru at ddiffygion mewn darparwyr dysgu yn y gwaith. Maent hefyd yn helpu gwella ansawdd addysg â ffocws gwaith.At ei gilydd, mae Gyrfa Cymru yn rhoi cymorth da ar gyfer datblygu anogwyr dysgu ledled Cymru. Fodd bynnag, nid yw rôl anogwyr dysgu yn ddigon cyson na datblygedig eto, ac nid yw staff partneriaeth a dysgwyr yn glir ynglÅ·n â rôl ymgynghorwyr gyrfaoedd.Mae angen i gwmnïau Gyrfa Cymru wneud mwy i arfarnu a rhannu arfer dda.

Argymhellion

Dylai cwmnïau Gyrfa Cymru:

  • sicrhau bod Rhwydweithiau Dysgu yn glir ynglÅ·n â’r gwasanaethau y mae cwmnïau Gyrfa Cymru yn eu darparu yn eu cyllid craidd;
  • gwella dealltwriaeth partneriaid o’r ffiniau rhwng rolau anogwyr dysgu ac ymgynghorwyr gyrfaoedd; ac
  • adolygu, ar lefel strategol, y modd y gall cynlluniau busnes a modelau adnodd ymateb yn well i ddatblygiadau Llwybrau Dysgu.

Dylai Rhwydweithiau Dysgu:

  • wneud y defnydd gorau o wybodaeth am y farchnad lafur a’r wybodaeth am gyrchfannau dysgwyr y mae cwmnïau Gyrfa Cymru yn eu llunio er mwyn cynllunio darpariaeth.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • sicrhau bod cyfatebiaeth briodol rhwng anghenion dysgwyr ac argaeledd dysgu yn y gwaith addas; a
  • sefydlu canllawiau clir i egluro rôl anogwyr dysgu a gwella cysondeb y ddarpariaeth.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol