Adroddiad thematig |

Cau'r bwlch rhwng cyrhaeddiad bechgyn a merched mewn ysgolion - Mawrth 2008

Share this page

Adroddiad thematig | 01/03/2008

pdf, 351.89 KB Added 01/03/2008

Mae llai o fechgyn na merched yn caffael lefel y llythrennedd sy’n angenrheidiol i lwyddo. Mae hyn yn arbennig o wir mewn ysgrifennu, a darllen i raddau llai. Gan fod mwy o fechgyn yn cael trafferth â llythrennedd na merched, maent hefyd yn cael problemau manteisio ar y cwricwlwm ehangach.Mae bechgyn yn wynebu mwy o bwysau gan gyfoedion na merched, a gall hyn greu gwrthdaro rhwng eu hymgysylltiad â dysgu a’u perthynas â’u cyfoedion. Mae lleiafrif o ysgolion wedi bod yn llwyddiannus wrth ddatblygu strategaethau penodol sydd wedi gwella cyrhaeddiad bechgyn. Mae’r strategaethau hyn yn aml yn cynnwys mireinio dulliau o ddysgu ac addysgu trwy herio canfyddiadau ystrydebol a gwneud newidiadau i’r cwricwlwm.

Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • ddyfeisio polisi ysgol gyfan cydlynus ar gyfer gwella cyrhaeddiad bechgyn;
  • canolbwyntio ar wella llythrennedd bechgyn; a
  • dod o hyd i ffyrdd o fodloni anghenion dysgu disgyblion unigol trwy olrhain eu cynnydd a thargedu cymorth lle mae ei angen fwyaf.

Dylai awdurdodau lleol:

  • roi blaenoriaeth uchel i raglenni llythrennedd sy’n gwella medrau llythrennedd bechgyn;
  • sicrhau bod ysgolion yn gosod targedau ar gyfer gwella cyrhaeddiad bechgyn; a
  • rhoi data perfformiad i ysgolion ar gyrhaeddiad cymharol bechgyn a merched o’i gymharu â normau cenedlaethol a normau wedi’u meincnodi.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ddatblygu strategaeth genedlaethol ar gyfer gwella cyrhaeddiad bechgyn; a
  • chomisiynu ymchwil i pam mae asesiadau athrawon yn tueddu i ffafrio merched yn fwy na phrofion ac arholiadau allanol.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol