Adroddiad thematig |

Bodloni anghenion dysgu plant a phobl ifnac s'yn troseddu - Mehefin 2008

Share this page

Adroddiad thematig | 01/06/2008

pdf, 357.1 KB Added 01/06/2008

At ei gilydd, nid yw awdurdodau lleol yn gwneud digon i sicrhau bod Timau Troseddau Ieuenctid (TTIau) yn sicrhau addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth amser llawn ar gyfer plant a phobl ifanc yn y System Cyfiawnder Ieuenctid.Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn rhoi llai o gyllid yn gymesur i TTIau na phartneriaid yn Lloegr. Mae hyn yn cyfyngu ar yr ystod o wasanaethau a chyfleoedd addysgol sydd ar gael i blant a phobl ifanc.Yn gyffredinol, nid oes digon o leoedd addysgol a hyfforddiant i fodloni anghenion unigol y rhai sy’n troseddu, ac mae gormod o fylchau yn y ddarpariaeth. Mae dod o hyd i ddarpariaeth addas yn broblem barhaus. Mae hyn hefyd yn wir am ddarpariaeth Gymraeg.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • sicrhau bod digon o leoedd hyfforddiant yn y gwaith i fodloni anghenion yr holl bobl ifanc;
  • casglu data cenedlaethol ar gyrhaeddiad a chyflawniadau plant a phobl ifanc sy’n cael eu goruchwylio gan TTIau yn y gymuned; a
  • monitro’r defnydd o gynlluniau dysgu unigol ar gyfer yr holl blant a phobl ifanc sy’n troseddu, fel sy’n ofynnol gan Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan.

Dylai awdurdodau lleol:

  • gymryd rhan mewn byrddau rheoli TTI ar lefel ddigon uchel, gan sicrhau bod cynrychiolaeth ar lefel ddigon uchel gan wasanaethau addysg; ac
  • adolygu lefel y cyfraniad cyllid at TTIau.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.