Adroddiad thematig |

Arolwg o'r trefniadau ar gyfer rheoli lles ac ymddygiad disgyblion mewn unedau cyfeirio disgyblion - Ionawr 2012

Share this page

Mae staff addysgu a staff cymorth mewn unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru’n gwneud gwaith anodd gyda disgyblion sydd ag ymddygiad heriol. At ei gilydd, maent wedi’u hyfforddi’n dda ac maent yn hyderus yn gweithio gyda disgyblion agored i niwed. Fodd bynnag, mae angen i’r rhan fwyaf o unedau cyfeirio disgyblion adolygu a gwella’u polisïau, eu systemau cynllunio disgyblion, eu gwaith asesu risg a’u rheolaeth ar gofnodion.

Argymhellion

Dylai awdurdodau lleol:

  • osod safonau clir ar gyfer defnyddio ymyriad ac ataliad corfforol cyfyngol gan UCDau ac ar gyfer cadw cofnodion a sicrhau bod rheolwyr llinell, pwyllgorau rheoli ac aelodau etholedig yn gallu monitro’r rhain yn effeithiol;
  • gwneud yn siŵr bod adroddiadau am ddigwyddiadau yn cael eu defnyddio i lywio’r adolygiad o bolisïau’r awdurdod lleol ar gyfer lles a diogelu disgyblion;a
  • dwyn athrawon sydd â gofal i gyfrif yn effeithiol, trwy ddefnyddio trefniadau adrodd sy’n canolbwyntio ar les disgyblion, ac arfarnu’r strategaethau ar gyfer cefnogi disgyblion ag ymddygiad heriol.

Dylai unedau cyfeirio disgyblion (UCDau):

  • adolygu eu polisïau yn rheolaidd, a’u halinio ag arweiniad Llywodraeth Cymru a’r awdurdod lleol;
  • cyflwyno gwybodaeth yn glir i staff yn eu polisïau a’u harweiniad ysgrifenedig; a
  • cyflwyno hyfforddiant i bob un o’r staff mewn rheoli ymddygiad, ymyriad ac ataliad corfforol cyfyngol sy’n adlewyrchu arfer orau.

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol