Adroddiad thematig |

Arolwg o hyfforddiant cymwysterau proffesiynol ar gyfer gweithwyr ieuenctid yng Nghymru - Chwefror 2010

Share this page

Mae’r rheolwyr uchaf mewn SAUau, yn enwedig ar lefel pennaeth ysgol neu gyfadran, yn deall yr heriau sy’n wynebu cyrsiau cymhwyster gwaith ieuenctid proffesiynol.Fodd bynnag, er bod uwch reolwyr yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio rhwng rhaglenni a chyrsiau, nid ydynt wedi datblygu rhannu arfer dda a rheoli lleoliadau gwaith yn effeithiol.Mae’r arolwg hwn yn dilyn adroddiad 2009 - Pa mor dda yw’r hyfforddiant ar gyfer gweithwyr cymorth ieuenctid yng Nghymru?

Argymhellion

Dylai sefydliadau addysg uwch:

  • wneud trefniadau i drafod a rhannu arfer dda;
  • trefnu cyfarfodydd rheolaidd gyda phawb sy’n cyflogi gweithwyr ieuenctid cymwys, i ymgynghori ar ddyluniad, cynnwys a chyflwyno cyrsiau ieuenctid a chymunedol;
  • gwneud yn siŵr bod cynllunio’r cwricwlwm yn datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau mewn cyd-destunau sy’n integreiddio arfer â theori;
  • gwella eglurder yr arweiniad i wella goruchwylwyr lleoliadau am eu rôl addysgol mewn cyrsiau, fel eu bod yn gwybod yn glir beth yw eu cyfrifoldebau am ddatblygu medrau, gwybodaeth a dealltwriaeth broffesiynol hyfforddeion; a
  • gwella argaeledd hyfforddiant i oruchwylwyr lleoliadau gwaith, i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni eu cyfrifoldebau a’u rolau asesu yn effeithiol.

Dylai gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol:

  • wella sicrhau ansawdd lleoliadau gwaith a ddarperir gan eu staff, i sicrhau bod gan bob goruchwyliwr gymwysterau cymwys, a’u bod yn cyflawni eu cyfrifoldebau.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.