Adroddiad thematig |

Arfer awdurdodau addysg lleol wrth fonitro lleoliad disgyblion sy'n cael eu haddysgu y tu allan i leoliad yr ysgol - Mai 2007

Share this page

Mae rhywfaint o ddryswch mewn rhai awdurdodau lleol am y math o ddarpariaeth y dylid ei chofrestru gyda Llywodraeth Cymru fel uned cyfeirio disgyblion. Mae hyn yn golygu bod rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn cynnal unedau anghofrestredig sy’n addysgu disgyblion o oedran ysgol gorfodol. Nid yw rhai disgyblion sy’n cael eu haddysgu mewn unedau anghofrestredig ar gofrestr unrhyw ysgol neu goleg ac felly, gellid eu dosbarthu fel disgyblion sydd ar goll o addysg.Er bod awdurdodau lleol yn cynnal data ar ddisgyblion sydd ar goll o addysg, nid yw bob amser yn gyflawn ac ni chaiff ei rannu gydag adrannau eraill o’r awdurdod lleol.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • roi arweiniad clir i awdurdodau lleol am y mathau o ddarpariaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu cofrestru; a
  • rhoi gwybodaeth flynyddol i Estyn am yr holl safleoedd y mae awdurdodau lleol yn eu cofrestru.

Dylai awdurdodau lleol:

  • gofrestru gyda Llywodraeth Cymru yr holl safleoedd lle maent yn cynnal darpariaeth ar gyfer disgyblion o oedran ysgol heblaw’r rhai sydd mewn ysgolion prif ffrwd, arbennig neu feithrin;
  • hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau i’r ddarpariaeth gofrestredig yn flynyddol; a
  • gofyn am gydweithio agosach rhwng gweithwyr addysg, gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu a gweithwyr ieuenctid i nodi plant nad ydynt yn mynychu ysgolion neu ddarpariaeth addysgol gymeradwy arall.

Dylai ysgolion:

  • sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.