Adroddiad thematig |

Arfarnu canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol - Chwefror 2007

Share this page

Nid oes unrhyw feincnodau cenedlaethol ar gyfer mesur cyrhaeddiad disgyblion ag anghenion addysgol arbennig. Gall hyn ei gwneud yn anodd olrhain cynnydd disgyblion.Yn aml, mae ysgolion yn cadw llawer o wybodaeth am gyflawniad disgyblion unigol ag anghenion addysgol arbennig. Fodd bynnag, yn aml, ni chaiff y wybodaeth hon ei chasglu i arfarnu’r effaith ar ddeilliannau dysgu ar gyfer grwpiau o ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig neu ar draws yr ysgol gyfan.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ddatblygu cofnod unedig o bob dysgwr sydd ag anghenion addysgol arbennig sy’n cynnwys manylion am eu hanghenion arbennig a’r math o ddarpariaeth i fodloni’r anghenion hynny; a
  • chynyddu cwmpas y cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion (CYBLD) fel ei fod yn cael gwybodaeth am ddisgyblion mewn lleoliadau’r blynyddoedd cynnar, y rhai sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS) a’r rhai y mae awdurdodau’n ariannu darpariaeth yn y sector annibynnol ar eu cyfer.

Dylai Awdurdodau Addysg Lleol:

  • weithio’n agos gydag ysgolion i wella ansawdd a chysondeb y wybodaeth am ddisgyblion unigol ag anghenion addysgol arbennig.

Dylai ysgolion:

  • wella cywirdeb y wybodaeth am ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig a roddir i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru; a
  • chymryd Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn a’r wybodaeth yn yr adroddiad hwn fel man cychwyn ar gyfer dadansoddi deilliannau dysgu ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig fel rhan o hunanarfarnu.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol