Adroddiad thematig |

Arfarnu ansawdd a gwerth yr addysg a'r hyfforddiant a ariennir trwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru - Mai 2009

Share this page

Mae llawer o gyflogeion wedi dychwelyd i addysg a hyfforddiant am y tro cyntaf ers gadael yr ysgol, gyda rhai yn ennill cymhwyster ffurfiol am y tro cyntaf yn eu bywydau, o ganlyniad i gyllid gwerth dros £6 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Mae Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (CDdUC) wedi helpu cyfrannu at gynnydd yn nifer y bobl sy’n dysgu nad oes ganddynt unrhyw draddodiad blaenorol o ddysgu, yn ogystal â gwelliant cyffredinol mewn medrau yn y gweithlu.

Argymhellion

Mae angen i Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â TUC Cymru:

  • ymestyn prosiectau CDdUC hyd at dair blynedd i wneud yn siŵr bod cyflogeion yn cael o leiaf ddwy flynedd lawn o addysg a hyfforddiant;
  • gwella’r broses gwneud cynigion i wneud yn siŵr bod undebau llafur a dysgwyr yn gwneud y gorau o’r cyfleoedd addysg a hyfforddiant a ariennir gan CDdUC sydd ar gael; a
  • gweithio gyda chyflogwyr ac undebau i wella cynaliadwyedd rhaglenni CDdUC ar ddiwedd eu cyfnod ariannu.

Mae angen i TUC Cymru:

  • wella gweithio mewn partneriaeth ar draws undebau i’w galluogi i rannu arfer dda ac adnoddau yn effeithiol.

Mae angen i reolwyr prosiect CDdUC:

  • wneud yn siŵr bod pob cyflogai yn cael cymorth medrau sylfaenol ar lefel addas; ac
  • ymgysylltu’n llawn â chyflogwyr i wneud y gorau o argaeledd a chynaliadwyedd cyfleoedd dysgu ar gyfer cyflogeion a’u teuluoedd pan fydd cyllid CDdUC wedi dod i ben.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol