Adroddiad thematig |

Arfarniad o effaith cynlluniau a grant pontio ar bartneriaethau ysgol cynradd ac uwchradd yng nghyfnod - 2010

Share this page

Yn 2006, cyhoeddwyd Cylchlythyr 30/2006 gan Lywodraeth Cymru, sy’n rhoi arweiniad i ysgolion ar gynllunio ar gyfer trosglwyddo disgyblion o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Yn yr un flwyddyn, cyflwynodd LlC y grant pontio i helpu awdurdodau lleol i ddatblygu modelau arfer dda arloesol a chynaliadwy ar gyfer trosglwyddo disgyblion o gyfnod allweddol 2 i gyfnod allweddol 3.Mae cynllunio pontio bellach yn nodwedd gref o waith y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd a’u hysgolion cynradd partner. Mae athrawon yn awr yn ymweld ag ysgolion eraill i arsylwi’r addysgu a’r dysgu i’w helpu yn eu cynllunio. Fodd bynnag, er bod safonau’n dda ar y cyfan, mae angen gwneud mwy i wella’r gweithgareddau pontio ar gyfer rhifedd.Mae’r rhan fwyaf o glystyrau o ysgolion wedi nodi bod angen gwella dilyniant medrau Cymraeg disgyblion pan fyddant yn symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Fodd bynnag, nid yw’r rhan fwyaf o ysgolion wedi cynllunio i gynnwys darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn eu gweithgareddau safoni asesu eto.

Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • adeiladu ar gynllunio gwaith partneriaeth a chlwstwr i helpu pob dysgwr i gyflawni safonau gwell mewn pynciau craidd ac mewn Cymraeg fel ail iaith;
  • codi safonau mewn llythrennedd a rhifedd trwy wneud defnydd gwell o wybodaeth am gyflawniadau disgyblion pan fyddant yn trosglwyddo i’r ysgol uwchradd; ac
  • arfarnu’r trefniadau pontio yn well trwy holi barn rhieni neu ofalwyr a defnyddio’r canlyniadau i lywio cynlluniau hunanarfarnu a datblygu.

Dylai awdurdodau lleol:

  • sicrhau bod trefniadau pontio yn codi’r safonau a gyflawnir gan bob disgybl, yn cynnwys y disgyblion mwy abl; a
  • darparu hyfforddiant gwell ar gyfer athrawon ar wella parhad a dilyniant yn natblygiad disgyblion yn y Gymraeg.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • barhau i gefnogi clystyrau o ysgolion wrth adolygu eu cynlluniau pontio cychwynnol ac mewn cryfhau meysydd pontio allweddol.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.