Adroddiad thematig |

Arfarnaid o ddysgu troseddwyr ôl - 18 yng Nghymru - Chwefror 2009

Share this page

Adroddiad thematig | 01/02/2009

pdf, 329.38 KB Added 01/02/2009

At ei gilydd, mae carchardai a mannau prawf yn cynnig ystod eang o ddewisiadau a chymwysterau dysgu. Mae’r gweithio mewn partneriaeth yn dda, ac mae cyfleoedd da i droseddwyr ddod o hyd i swydd ar ddiwedd eu dedfryd.Mae bron pob carchar a man prawf yn helpu troseddwyr i ddatblygu eu medrau personol a chymdeithasol, ond nid yw’r rhan fwyaf o diwtoriaid yn cofnodi’r cyflawniadau hyn yn ddigon da. Nid oes digon o ddarpariaeth ar gyfer y rhai â medrau sylfaenol gwael, ac nid oes digon o ddarpariaeth ar gael yn Gymraeg.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • egluro’r trefniadau ariannu ar gyfer darpariaeth medrau sylfaenol i droseddwyr sy’n bwrw eu tymor yn y gymuned ar ôl Ebrill 2009; a
  • gwella ansawdd y dysgu a’r medrau ar gyfer troseddwyr mewn carchardai a mannau prawf ymhellach.

Dylai darparwyr:

  • sicrhau bod gweithdrefnau asesu effeithiol ar waith ar gyfer anghenion llythrennedd, iaith a rhifedd, wedi’u cysylltu â’r broses gynllunio, ac sy’n cynnwys gwneud diagnosis o ddysgwyr ag anawsterau dysgu a/neu anableddau; a
  • sicrhau bod gan bob troseddwr gynllun dysgu unigol o ansawdd da, sydd wedi’i gysylltu â’u cynllun dedfryd, sy’n cydlynu’r holl waith a wnaed gan wahanol asiantaethau.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.