Adroddiad thematig |

Ansawdd adeiladau newydd mewn Addysg Bellach au heffaith ar ddysgwyr - Mehefin 2010

Share this page

Yn y colegau yr ymwelwyd â nhw, mae’r gwaith adeiladu ac ailwampio newydd wedi cyd-fynd â gwelliant yng nghyfraddau cwblhau a chyrhaeddiad dysgwyr, ac mae rhywfaint o dystiolaeth bod presenoldeb wedi gwella.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ofyn i Estyn gynnal adolygiad pellach ar ansawdd yr adeiladau newydd mewn colegau a’i effaith ar ddysgwyr o fewn y tair blynedd nesaf.

Dylai colegau addysg bellach:

  • wneud yn siŵr bod effaith unrhyw waith adeiladu a/neu ailwampio mawr yn cael ei adrodd yn flynyddol ym mhrosesau hunanasesu’r colegau;
  • parhau i sicrhau bod y strategaethau ystadau yn gyfoes a’u bod yn cynnwys cynllun treigl ar gyfer gwelliant parhaus yr ystâd; ac
  • ymestyn y cydweithio gyda rhwydweithiau ardal lleol i sicrhau bod ceisiadau am waith adeiladu a/neu ailwampio mawr yn adlewyrchu anghenion y coleg a’i randdeiliaid.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol