Adroddiad thematig |

Afarniad o ddysgu troseddwyr ol-18 yng Nghymru - Chwefror 2009

Share this page

Adroddiad thematig | 01/02/2009

pdf, 329.38 KB Added 01/02/2009

Mae awdurdodau lleol a’u partneriaid yn defnyddio data i wella gwasanaethau addysg a hyfforddiant i ddysgwyr o ganlyniad i bartneriaethau strategol fel y Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc.Fodd bynnag, canfuwyd nad yw’r data yn cael ei ddefnyddio’n gyson ac yn effeithiol bob amser i gynllunio gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc ar lefel strategol a thargedu cymorth ar gyfer dysgwyr sydd â’r angen mwyaf.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ddarparu arweinyddiaeth ac adnoddau yn y mannau hynny lle nad oes data ar gael;
  • cefnogi datblygiad mesurau deilliannau defnyddiol gan adeiladu ar ddangosyddion perfformiad presennol; a
  • datblygu arweiniad ar gwmpas data i’w ddefnyddio ar gyfer dadansoddi angen i gael cysondeb gwell ledled Cymru.

Dylai awdurdodau lleol a’u partneriaid:

  • wneud yn siŵr bod y data sy’n cael ei gasglu ar gyfer dadansoddi anghenion a mesurau deilliannau yn cael ei ddefnyddio i lywio dyrannu adnoddau a chynllunio strategol;
  • defnyddio mesurau deilliannau effeithiol a chasglu’r wybodaeth hon yn drefnus; a
  • defnyddio gwybodaeth fanwl i ganolbwyntio gwasanaethau cymorth ac addysg ar y rhai sydd eu hangen fwyaf.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.