Adroddiad thematig |

Addysg wyddoniaeth ar gyfer dysgwyr 14-19 oed - Mai 2008

Share this page

Adroddiad thematig | 01/05/2008

pdf, 380.86 KB Added 01/05/2008

Yn yr ysgolion yr ydym wedi’u harolygu, mae safonau mewn Gwyddoniaeth yn is nag ydynt bron ym mhob pwnc arall. Mae cyfran y disgyblion sy’n cael gradd A*-C mewn TGAU yn cynyddu, ond ddim mor gyflym mewn Mathemateg neu Saesneg. Mae nifer y disgyblion sy’n cael eu cofrestru ar gyfer Safon Uwch mewn Gwyddoniaeth wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf, tra bod nifer y disgyblion sy’n cael eu cofrestru ar gyfer Safon Uwch yn gyffredinol wedi gostwng.Mae ansawdd yr addysgu mewn Gwyddoniaeth yn waeth ar y cyfan nag ydyw mewn pynciau eraill. Mae prinder athrawon arbenigol mewn Ffiseg a Chemeg sydd â chymwysterau perthnasol. Mae niferoedd yr athrawon dan hyfforddiant sy’n dilyn cyrsiau Ffiseg a Chemeg yn isel, felly mae’r prinder hwn yn debygol o barhau.Nid yw arweinyddiaeth a rheolaeth mewn adrannau gwyddoniaeth yn ddigonol, yn aml am nad yw penaethiaid adrannau yn meddu ar y wybodaeth bynciol berthnasol.

Argymhellion

Dylai ysgolion uwchradd:

  • ddarparu hyfforddiant mewn swydd ar gyfer athrawon gwyddoniaeth nad ydynt yn arbenigwyr mewn gwyddoniaeth ffisegol i wella eu gwybodaeth bynciol ac addysgeg; a
  • chynyddu’r cydweithio gyda phartneriaid eraill i sicrhau eu bod, gyda’i gilydd, yn cynnig ystod lawn o ddewisiadau gwyddoniaeth i fodloni anghenion pob dysgwr 14-19 ac yn gwneud defnydd mwy effeithiol o athrawon arbenigol.

Dylai rhwydweithiau 14-19:

  • annog mwy o gydweithio rhwng darparwyr i gynnig ystod eang o lwybrau mewn gwyddoniaeth ar gyfer dysgwyr 14-19, yn cynnwys llwybrau cymhwysol a galwedigaethol; a
  • gwneud yn siŵr bod cydlynwyr Llwybrau Dysgu 14-19 ac anogwyr dysgu yn deall y llwybrau posibl mewn gwyddoniaeth yn llawn a’u bod yn rhoi cyngor llawn a diduedd i ddysgwyr.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ddatblygu strategaeth addysg wyddoniaeth i Gymru a fydd yn cynnig symbyliad arwyddocaol i wella safonau ac ansawdd yr addysgu a’r arweinyddiaeth mewn gwyddoniaeth ac yn y gwyddorau ffisegol yn arbennig; a
  • chefnogi datblygu cyfleoedd hyfforddi ar gyfer penaethiaid gwyddoniaeth ac ar gyfer athrawon gwyddoniaeth nad ydynt yn arbenigwyr mewn gwyddoniaeth ffisegol.

Mae astudiaethau achos yn yr adroddiad yn cynnwys arfer orau o ysgolion amrywiol.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol