Adroddiad thematig |

Addysg mewn cartrefi plant - Mawrth 2008

Share this page

Adroddiad thematig | 01/03/2008

pdf, 302.88 KB Added 01/03/2008

Mae’r trefniadau ar gyfer addysgu pobl ifanc mewn cartrefi plant yn gymhleth gan fod y ddarpariaeth yn amrywiol. Mae natur ac ansawdd y ddarpariaeth yn dibynnu ar y flaenoriaeth y mae’r sefydliadau sy’n rhedeg cartrefi plant yn ei rhoi i addysg.Nid yw’r rhan fwyaf o ysgolion annibynnol yn gyfarwydd â’r gofynion ar gyfer cofrestru pan fyddant yn gwneud cais i ddechrau. Fodd bynnag, maent yn gwneud cynnydd da ar y cyfan wrth ddilyn yr argymhellion i fodloni’r gofynion ar gyfer agor.Yn y 15 ysgol fach sy’n gweithredu mewn cartrefi plant, nid yw pob disgybl yn cael yr un hawl i addysg. Mae amser addysgu’n amrywio o un ysgol i’r llall, a bron ym mhob ysgol, disgwylir i staff gofal oruchwylio gweithgareddau dilynol.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ystyried ceisio gwneud trefniadau ffurfiol gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i adrodd yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru lle nad yw pobl ifanc mewn cartrefi plant yn cael eu haddysgu mewn darpariaeth a gynhelir; a
  • sicrhau bod ysgolion annibynnol cofrestredig yn cynnal cofrestrau presenoldeb dyddiol sy’n cydymffurfio â rheoliadau, ac yn cyflawni gofynion Rheoliadau Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (Cymru) 2003.

Dylai awdurdodau lleol:

  • roi cofnodion addysg disgyblion i ysgolion annibynnol cofrestredig yn fwy prydlon a sicrhau eu bod yn cynnwys gwybodaeth gyfoes; a
  • chymryd rôl fwy cadarnhaol fel rhieni corfforaethol.

Dylai ysgolion annibynnol cofrestredig:

  • gynnal asesiad cychwynnol o ddisgyblion newydd, monitro eu cynnydd yn effeithiol a defnyddio’r wybodaeth i gynllunio’n briodol i fodloni anghenion dysgu disgyblion; ac
  • arfarnu a monitro’r rhaglenni astudio addysg yn fwy trylwyr ar gyfer disgyblion sy’n mynychu sefydliadau eraill am ran o’u haddysg.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.