Sut mae gwaith yr ysgol i flaenoriaethu addysgu disgybl ganolog, cryfhau llais y disgybl a chefnogi lles disgyblion wedi gwella ymrwymiad disgyblion at ddysgu a’u hymddygiad.
Quick links:
- Gwybodaeth am yr ysgol/y darparwr
- Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
- Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
- Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a deilliannau i ddysgwyr ac/neu eu teuluoedd?
- Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda yn yr ysgol, y sector a thu hwnt?
Gwybodaeth am yr ysgol/y darparwr
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg sydd yn gwasanaethu cymunedau ar draws dinas Caerdydd. Mae gan yr ysgol 1498 o ddisgyblion rhwng 11 ac 18 oed, gyda 313 ohonynt yn disgyblion 6ed dosbarth. Mae tua 7.2% o ddisgyblion yr ysgol yn gymwys am brydiau ysgol am ddim, a 49.1% o ddisgyblion yn siarad y Gymraeg yn yr aelwyd.
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
Mae gweledigaeth Ysgol Glantaf wedi’i seilio ar ‘Addysgu Disgybl Ganolog’, a’r weledigaeth hon sy’n llywio gwaith yr ysgol. Mae’r dull hwn yn greiddiol i’r dysgu ac addysgu yn ogystal â darpariaeth lles yr ysgol, gyda’r nod o sicrhau bod anghenion unigol pob disgybl wrth galon pob penderfyniad. Rhoddir pwyslais cryf ar adnabod y disgyblion, eu cryfderau, eu diddordebau a’r math o ddarpariaeth sy’n gweddu orau iddynt, er mwyn sicrhau eu bod i gyd yn gwneud cynnydd. Yn ogystal, mae’r ysgol yn gwerthfawrogi llais y disgybl, gan gynllunio ystod eang o gyfleoedd drwy gydol y flwyddyn academaidd i wrando ar eu barn, ei pharchu a gweithredu arni, gan gryfhau ymdeimlad o berthyn a chyfrifoldeb o fewn cymuned yr ysgol.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
- Mae ymagwedd dysgu ac addysgu Ysgol Glantaf yn seiliedig ar egwyddorion ‘Addysgu Disgybl Ganolog’, gan sicrhau bod anghenion, cynnydd a datblygiad pob disgybl wrth wraidd pob gwers. Rhoddir pwyslais cryf ar asesu byw er mwyn cael darlun clir a chywir o gynnydd disgyblion, sy’n galluogi athrawon i addasu gwersi’n effeithiol yn unol ag anghenion unigol. Mae hyn yn cyd-fynd yn agos gydag ymagwedd yr ysgol at adborth, lle mae ffocws clir ar ddarparu adborth o fewn gwersi fel bod disgyblion yn cael cyfleoedd rheolaidd i wella a mireinio eu gwaith. Drwy hyn, caiff dysgwyr eu hannog i ddatblygu’n ddysgwyr annibynnol sy’n ymateb yn adeiladol i adborth ac yn cymryd perchnogaeth o’u cynnydd eu hunain.
- Mae’r ysgol wedi mabwysiadu dull disgybl ganolog o asesu a thracio cynnydd, gan sicrhau bod cynnydd pob unigolyn wrth wraidd y broses. Defnyddir ‘Tasgau Her Uchel’ i herio disgyblion ac i ddarparu darlun cywir o’r cynnydd y maent yn eu gwneud dros amser. Caiff y wybodaeth hon ei defnyddio ochr yn ochr â chanlyniadau profion cenedlaethol er mwyn sefydlu meincnodau clir a gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer gwelliant. Mae’r dull hwn yn galluogi staff i ddarparu cymorth a darpariaeth briodol sy’n ymateb i anghenion unigol disgyblion, gyda’r nod o sicrhau bod pob disgybl yn cael ei herio i wneud cynnydd priodol.
- Mae darpariaeth lles Ysgol Glantaf yn seiliedig ar egwyddorion ‘Disgybl Ganolog’, gyda’r nod o sicrhau bod anghenion emosiynol a chymdeithasol pob disgybl wedi integreiddio i’r gwaith. Mabwysiadir dull ysgol gyfan tuag at les, lle mae pob aelod o staff yn cyfrannu at greu amgylchedd diogel, cefnogol a chynhwysol. Mae perthnasoedd cadarnhaol rhwng athrawon a disgyblion yn allweddol, gyda phwyslais clir ar feithrin ymddiriedaeth a pherthyn, fel bod disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u hannog i lwyddo. Yn ogystal, mae darpariaeth arbenigol ac ardaloedd penodol o fewn yr ysgol sy’n cynnig cymorth wedi’i deilwra i’r rhai sydd ei angen, gan sicrhau bod pob disgybl yn cael y gefnogaeth briodol i ffynnu.
- Mae llais y disgybl yn ganolog i waith Ysgol Glantaf, gyda strwythurau clir ar waith i sicrhau bod barnau disgyblion yn cael eu clywed a’u gweithredu.. Mae’r ysgol yn cynnal ystod eang o weithgareddau drwy gydol y flwyddyn i roi cyfleoedd rheolaidd i ddisgyblion rannu eu profiadau a’u safbwyntiau. Ymhlith y rhain mae ‘Sgwrs am waith’ bob tymor, sy’n galluogi disgyblion i roi adborth ar wersi ac ar y dulliau sy’n eu helpu i ddysgu orau. Yn ogystal, cynhelir ‘Sgwrs am les’ yn dymhorol, gan roi cyfle i drafod pob agwedd ar eu lles a sut y gall yr ysgol eu cefnogi’n well. Mae’r ysgol hefyd yn gweithredu ‘Fy Llais’, sef llwyfan ar-lein lle gall disgyblion godi unrhyw bryderon diogelu, gan gynnwys y gallu i wneud hynny’n ddienw os dymunant, gan sicrhau bod pob llais yn cael ei werthfawrogi a’i ddiogelu.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a deilliannau i ddysgwyr ac/neu eu teuluoedd?
- Mae disgyblion yn dangos lefelau uwch o ymgysylltiad mewn gwersi ac â’u gwaith, gan gyfrannu’n weithredol at eu dysgu eu hunain.
- Mae disgyblion yn datblygu’n ddysgwyr annibynnol sy’n fwy hyderus wrth ddatrys problemau ac yn dangos dyfalbarhad wrth wynebu heriau.
- Mae perthynas gadarnhaol rhwng disgyblion ac athrawon, gan alluogi athrawon i ddeall anghenion unigol yn well a sicrhau bod pob disgybl yn gwneud cynnydd.
- Mae disgyblion yn teimlo bod eu lleisiau yn cael eu clywed a’u parchu, ac maent yn datblygu ymdeimlad cryf o berchnogaeth dros eu dysgu eu hunain.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda yn yr ysgol, y sector a thu hwnt?
Rhannwyd y weledigaeth disgybl ganolog trwy gydweithio agos gyda’n clwstwr cynradd a thrwy fforwm Uwch Arweinwyr CYDAG.