Gwaith yr ysgol i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Quick links:
- Gwybodaeth am yr ysgol/y darparwr
- Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
- Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
- Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a deilliannau i ddysgwyr ac/neu eu teuluoedd?
- Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda yn yr ysgol, y sector a thu hwnt?
Gwybodaeth am yr ysgol/y darparwr
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg sydd yn gwasanaethu cymunedau ar draws dinas Caerdydd. Mae gan yr ysgol 1498 o ddisgyblion rhwng 11 ac 18 oed, gyda 313 ohonynt yn ddisgyblion chweched dosbarth. Mae tua 7.2% o ddisgyblion yr ysgol yn gymwys am brydau ysgol am ddim, a 49.1% o ddisgyblion yn siarad y Gymraeg ar yr aelwyd.
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
Mae Ysgol Glantaf wedi gweld newid sylweddol yn ei demograffeg dros y ddegawd diwethaf, gyda nifer y disgyblion o gefndiroedd mwyafrif byd-eang wedi cynyddu’n sylweddol. Mae’r newid hwn wedi arwain at gyfnod o fyfyrio ar a gwerthuso polisïau cynhwysiant yr ysgol, ynghyd â’r ddarpariaeth gwricwlaidd, er mwyn sicrhau bod profiadau, hunaniaethau a lleisiau pob disgybl yn cael eu cydnabod a’u cynrychioli’n briodol. Roedd hyn fwyaf amlwg yng nghyd-destun profiadau disgyblion yn eu gwersi, y modd nad oeddynt yn cael eu cynnwys a’u hadlewyrchu yn y ddarpariaeth ond hefyd, ble roeddynt yn cael eu cynnwys, roedd y cyfeiriadau yn negyddol neu’n cyfeirio at anawsterau o hiliaeth, rhagfarn neu gywilydd. Ar adegau roedd y llyfrau gosod, neu’r thema ei hunan yn cael ei ddefnyddio’n drwsgl ac amhriodol, yn tynnu sylw at wahaniaethu neu at ystrydebu gan athrawon eu hunain. Cafodd y disgyblion eu grymuso i godi eu lleisiau nid mewn trafodaethau uniongyrchol gyda’r ysgol ar y dechrau ond mewn fforymau codi llais gyda disgyblion o gefndiroedd tebyg o ysgolion cyfrwng Saesneg lleol. Wrth roi’r adborth yn uniongyrchol a gonest i’r staff, esgorodd hyn ar waith craffu a chynllunio darpariaeth a themâu newydd oedd yn fwy cyfredola chynhwysol eu natur. Roedd hyn yn arbennig o wir am ddathlu hunaniaeth Gymreig mwy cyfannol a holistaidd sy’n adlewyrchu cymuned yr ysgol yn fwy teilwng.
O fewn y cyd-destun hwn hefyd, datblygodd yr ysgol weledigaeth glir i sicrhau bod merched yn teimlo’n hyderus ac wedi’u grymuso, gan gael cyfleoedd i lwyddo, arwain a gweld eu hunain fel arweinwyr a dylanwadwyr y dyfodol. Roedd yr ysgol yn awyddus i greu diwylliant lle mae cydraddoldeb rhywiol yn cael ei hyrwyddo’n weithredol a lle mae uchelgais a dyhead merched yn cael ei feithrin a’i ddathlu. Ar yr un pryd, nododd yr ysgol duedd bryderus ymhlith lleiafrif o ddysgwyr o ran safbwyntiau misogynistaidd a rhywiaethol, a oedd yn aml yn deillio o gynnwys ar-lein a dylanwadau cyfryngau cymdeithasol. O ganlyniad, datblygwyd dull clir ac effeithiol o herio misogyniaeth a rhywiaeth ym mhob ffurf, gan sicrhau ymateb cyson ac addysgol a oedd yn cyd-fynd â gwerthoedd cynhwysol yr ysgol.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
1. Datblygu cwricwlwm cynhwysol a chynrychioliadol
Canolbwyntiodd yr ysgol ar sicrhau cwricwlwm cynhwysol lle mae pob dysgwr yn gallu adnabod ei hun a’i brofiadau o fewn yr hyn a addysgir. Roedd hyn yn cynnwys adolygu cynnwys y cwricwlwm er mwyn osgoi model diffygiol o drafod hil, ethnigrwydd neu grefydd, ac yn hytrach hyrwyddo dull sy’n dathlu amrywiaeth ac yn gwerthfawrogi cyfraniadau pob cymuned. Rhoddwyd sylw penodol i sicrhau bod cyfraniad unigolion o gefndiroedd mwyafrif byd-eang i hanes a diwylliant Cymru yn cael ei adlewyrchu’n briodol ac yn ystyrlon ar draws meysydd dysgu.
2. Datblygu gallu a hyder staff
Bu’r ysgol yn gweithio mewn partneriaeth â DARPL er mwyn datblygu dealltwriaeth, hyder ac arbenigedd staff. Trwy gyfres o sesiynau dysgu proffesiynol a thrafodaethau myfyriol, cefnogwyd staff i drafod materion sensitif a heriol gyda dysgwyr mewn ffordd wybodus a sensitif, gan hefyd gryfhau eu gallu i fabwysiadu safbwynt gwrth-hiliol ym mhob agwedd ar fywyd a gwaith yr ysgol. Golyga hyn herio safbwyntiau rhagfarn sefydliadol a staff yn herio eu hunain i wirio eu dealltwriaeth a’u hystradebu eu hunain. Sicrhaodd hyn fwy o gysondeb yn y ffordd yr oedd staff yn ymateb i faterion yn ymwneud â hiliaeth, rhagfarn a chynhwysiant.
3. Prosiect i rymuso merched a datblygu arweinyddiaeth
Datblygodd yr ysgol brosiect penodol i rymuso merched o fewn y cynllun gwella ysgol, gyda’r nod o feithrin hyder, uchelgais a medrau arwain. Roedd hyn yn cynnwys cyfres o weithdai a oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu hunanhyder, llais a gwytnwch merched. Yn ogystal darparwyd profiad rhyngwladol unigryw i 28 o ddisgyblion trwy ymweliad â Malaysia, lle cawsant gyfleoedd i gyfarfod a chydweithio â dysgwyr ac arweinwyr eraill. Mae effaith y prosiect hwn yn parhau drwy ei etifeddiaeth o ran cyfleoedd arwain, rhannu profiadau a chryfhau dyheadau merched ar draws cymuned yr ysgol.
4. Golwg di-wyro ar herio rhagfarn drwy addysgu yn ogystal â sancsiwn
Mabwysiadodd yr ysgol ddull mwy cyson o gofnodi ac ymateb i ddigwyddiadau hiliol. Roedd hyn yn golygu cofnodi digwyddiadau yn gywir a gosod ymateb graddedig i ddigwyddiadau oedd yn cynnwys addysgu ac adlewyrchu gan unigolion yn ogystal â gosod sancsiwn lle yn briodol. Roedd hyn yn golygu cynnal cyfarfodydd adferol a myfyriol gyda disgyblion (a’u rhieni) i addysgu empathi ac ymatebion deallus i ddigwyddiadau o drosedd casineb.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a deilliannau i ddysgwyr ac/neu eu teuluoedd?
- Mae’r adolygiad o’r cwricwlwm wedi arwain at ddarpariaeth mwy cynhwysol a chynrychioliadol, lle mae dysgwyr yn gweld eu hunaniaethau, eu profiadau a’u cymunedau yn cael eu hadlewyrchu’n fwy amlwg yn eu dysgu. Mae hyn wedi cyfrannu at ymdeimlad cryfach o berthyn a balchder ymhlith dysgwyr o gefndiroedd amrywiol, tra hefyd yn ehangu dealltwriaeth pob dysgwr o hanes, diwylliant a chyfraniadau cymunedau amrywiol i Gymru a’r byd.
- Mae gwaith dysgu proffesiynol wedi cryfhau gallu staff i ymateb yn hyderus ac yn gyson i faterion sy’n ymwneud â hiliaeth, rhagfarn a gwahaniaethu. O ganlyniad, mae’r ysgol wedi datblygu diwylliant mwy agored lle mae trafodaethau am gydraddoldeb, hunaniaeth a chyfiawnder cymdeithasol yn rhan naturiol o fywyd ysgol, ac mae dysgwyr yn fwy parod i drafod a herio safbwyntiau niweidiol.
- Mae’r gwaith i rymuso merched wedi cael effaith arbennig o gadarnhaol ar hyder a dyheadau dysgwyr. Trwy weithdai, cyfleoedd arwain a phrofiadau rhyngwladol, mae merched wedi datblygu mwy o hyder yn eu gallu eu hunain ac wedi ymestyn eu dealltwriaeth o’u potensial fel arweinwyr y dyfodol.
- Mae dull graddedig o ymateb i ddigwyddiadau hiliol yn sicrhau cysondeb i ddioddefwyr yn ogystal â’r dealltwriaeth bod materion o’r fath yn cael eu hymchwilio yn llawn a’u cymryd o ddifri. Mae’r cam o addysgu ac adlewyrchu yn allweddol er mwyn sicrhau bod agweddau yn cael eu herio a bod rhesymeg cosb a sancsiwn yn cael ei ddeall a’i werthfawrogi a bod ymddygiad tebyg ddim yn cael ei ail-adrodd.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda yn yr ysgol, y sector a thu hwnt?
Rhannwyd y newidiadau i’r cwricwlwm a’r gwaith ehangach ar gynhwysiant gyda fforwm CYDAG, gan gynnwys cyflwyniad i rwydwaith Dirprwy Benaethiaid CYDAG ar y strategaethau a ddatblygwyd a’r effaith a welwyd. Yn ogystal, rhannwyd y gwaith ar ymbweru merched gydag ysgolion eraill drwy weithdai gyda ‘Gyda’n Gilydd’, gan amlygu’r dulliau a ddefnyddiwyd i ddatblygu hyder, arweinyddiaeth a dyheadau merched.