Mewnwelediadau i brentisiaethau: Darpariaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion - Estyn

Mewnwelediadau i brentisiaethau: Darpariaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion

Adroddiad thematig


Crynodeb Gweithredol

Y ddarpariaeth prentisiaethau gofal cymdeithasol oedolion yw’r sector darpariaeth prentisiaethau mwyaf yng Nghymru ac mae’n parhau i fynd trwy newid o ganlyniad i bandemig COVID-19, cyflwyno cymwysterau diwygiedig a phwysau cynyddol ar y gweithlu. Mae darparwyr yn addasu i newidiadau yn nemograffeg dysgwyr a niferoedd cynyddol o ddysgwyr sydd angen cymorth ychwanegol ag iaith a dysgu.

Ar draws Lefelau 2 a 3, mae darparwyr wedi ymateb yn gadarnhaol, ar y cyfan, i gyflwyno cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol diwygiedig, gan gynnwys y model craidd ac ymarfer. Mewn llawer o achosion, maent wedi mireinio’r modelau darparu yn briodol, cryfhau prosesau sefydlu dysgwyr ac addasu strwythurau staffio i gefnogi gweithredu. Dros y tair blynedd diwethaf, mae deilliannau dysgwyr wedi gwella’n gyson ar draws llawer o’r sector, gyda chyfraddau cyrhaeddiad mewn llawer o achosion yn nesáu at lefelau cyn y pandemig. Fodd bynnag, mae ychydig o ddarparwyr yn parhau i gyflawni ymhell islaw cyfartaleddau’r sector ar gyfer cyflawni’r fframwaith a chwblhau’n amserol.

Ar draws bron pob un o’r darparwyr, roedd perthnasoedd cryf rhwng aseswyr a dysgwyr yn gryfder nodedig. Fe wnaeth dysgwyr elwa o gyswllt rheolaidd, cymorth bugeiliol a dulliau hyblyg a oedd yn addasu dysgu o gwmpas patrymau sifft a gofynion y gweithle. Yn yr enghreifftiau cryfaf, roedd aseswyr yn teilwra’r ddarpariaeth yn ofalus i lefelau hyder, profiad blaenorol ac amgylchiadau personol dysgwyr. Fe wnaeth darparwyr gryfhau trefniadau fwyfwy i nodi anghenion am gymorth a chyfeirio dysgwyr at wasanaethau cymorth arbenigol.

Ymgysylltiad cyflogwyr â chefnogi dysgu yw un o’r heriau mwyaf sylweddol sy’n effeithio ar gynnydd dysgwyr a chwblhau amserol. Wrth i ni gasglu tystiolaeth, methodd gormod o gyflogwyr ddarparu amser neilltuedig ar gyfer hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith neu ymgysylltu’n weithgar â chynnydd dysgu, er gwaethaf ymrwymiadau o fewn cytundebau dysgu prentisiaethau.

Fe wnaeth darparwyr prentisiaethau lefel uwch barhau i wynebu heriau sylweddol wrth gyflwyno’r gyfres newydd o fframweithiau ar Lefelau 4 a 5. Er bod darparwyr a chyflogwyr yn cydnabod gwerth hirdymor cymwysterau prentisiaeth uwch diwygiedig wrth gryfhau gallu arweinyddiaeth a rheolaeth, fe wnaeth deilliannau dysgwyr aros yn rhy isel, ar y cyfan. Hefyd, cododd darparwyr bryderon am oedi ac anghysondebau o fewn trefniadau asesu allanol.

Fe wnaeth Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW), yn enwedig yn gysylltiedig â datblygiad medrau llythrennedd a rhifedd dysgwyr, barhau’n rhwystr allweddol rhag cynnydd dysgwyr a chwblhau fframweithiau ar bob lefel. Er y mabwysiadodd darparwyr ddulliau mwyfwy hyblyg a oedd yn canolbwyntio ar y dysgwr, nid oedd ansawdd ac effeithiolrwydd datblygiad parhaus medrau llythrennedd a rhifedd dysgwyr wedi’u datblygu’n ddigonol.

Hefyd, dywedodd darparwyr nad oedd trefniadau cyllido a hyd rhaglenni presennol yn cynnig digon o hyblygrwydd nac yn adlewyrchu cymhlethdod cynyddol angen dysgwyr. I ymateb i’r heriau hyn, roedd ychydig o ddarparwyr wedi lleihau neu ddiddymu’r ddarpariaeth prentisiaethau uwch. Mae hyn yn codi pryderon am allu arwain a rheoli prentisiaethau yn y dyfodol o fewn y sector.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn