Mewnwelediadau i Brentisiaethau: Cyfraddau Cwblhau Amserol
Crynodeb Gweithredol
Mae cyfraddau cwblhau amserol – sef cyfran y prentisiaid sy’n cwblhau eu fframwaith prentisiaeth o fewn cyfnod disgwyliedig rhaglen – yn ddangosydd pwysig ansawdd ac effeithiolrwydd y ddarpariaeth prentisiaethau. Mae eu cwblhau o fewn amserlenni disgwyliedig yn cefnogi symbyliad dysgwyr, eu hyder, eu dilyniant a’u datblygiad gyrfaol, ac mae hefyd yn adlewyrchu effeithiolrwydd cynllunio rhaglenni, trefniadau asesu, ymgysylltiad cyflogwyr a chymorth i ddysgwyr.
Darganfu’r adolygiad fod cyfraddau cwblhau amserol wedi gwella’n raddol dros y cyfnod tair blynedd a ddaeth i ben yn 2024/25. Yn 2024/25, cwblhaodd 70% o brentisiaid o fewn mis o’u dyddiad gorffen disgwyliedig, o gymharu â 64% yn 2022/23. Yn ystod yr un cyfnod, fe wnaeth cyfran y dysgwyr a gwblhaodd dros chwe mis yn hwyr ostwng o 16% i 10%. Er gwaethaf y gwelliant hwn, mae cyfraddau cwblhau amserol ymhell islaw’r lefelau cyn y pandemig o hyd ac fe wnaeth tuag 20% o ddysgwyr o hyd gwblhau dros dri mis y tu hwnt i’w dyddiad gorffen disgwyliedig, gan arddangos bod cwblhau’n hwyr yn broblem sylweddol ar draws y sector o hyd.
Sectorau iechyd, gwasanaethau cyhoeddus a gofal, ac adeiladu a’r amgylchedd adeiledig, oedd yn tanberfformio’n fwyaf cyson o ran cwblhau’n amserol. Ar draws y sectorau hyn, fe wynebodd darparwyr gyfuniad o heriau strwythurol a gweithredol, gan gynnwys diwygio cymwysterau, prinderau staffio, trosiant aseswyr, oedi yn gysylltiedig â gofynion asesu allanol, ac ymgysylltu a chefnogaeth wan gan gyflogwyr.
Nododd yr adolygiad amrywiad sylweddol mewn cyfraddau cwblhau amserol rhwng darparwyr. Er bod darparwyr a oedd yn cyflwyno lefelau sylweddol o ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol ac adeiladu yn wynebu heriau mwy yn gyffredinol, roedd graddau’r amrywiad yn parhau i fod yn sylweddol ar draws y sector. Roedd agweddau darparwyr at gynllunio, monitro a chefnogi cynnydd dysgwyr yn ffactor pwysig wrth bennu deilliannau cwblhau amserol.
Dangosodd y darparwyr cryfaf ffocws strategol clir ar gwblhau’n amserol a gwnaethant ei wreiddio’n gadarn o fewn trefniadau sicrhau ansawdd a rheoli perfformiad. Defnyddiodd darparwyr effeithiol systemau olrhain yn rhagweithiol, ymyrryd yn gynnar pan roedd cynnydd yn arafu a chynllunio rhaglenni yn ofalus ar sail gallu dysgwyr a dyddiadau cwblhau disgwyliedig. Fe wnaeth perthnasoedd cryfach ag aseswyr, ymgysylltu effeithiol gan gyflogwyr a thargedau clir i ddysgwyr gefnogi deilliannau cryfach, hefyd.
Fodd bynnag, amlygodd yr adolygiad anghysondebau hefyd wrth gydnabod dysgu blaenorol, ansawdd gosod targedau ac effeithiolrwydd ymgysylltu â chyflogwyr ar draws y sector. Yn ogystal, mae trefniadau cyllido presennol a rheolau am hyd rhaglenni weithiau’n cyfyngu ar hyblygrwydd o fewn darpariaeth prentisiaethau, gan olygu nad oedd dysgwyr bob amser yn symud ymlaen neu’n cwblhau ar y cyflymder yr oedd y gallu ganddynt i’w wneud.