Meithrin Cymreictod yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg
Quick links:
- Gwybodaeth am yr ysgol/y darparwr
- Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
- Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
- Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a deilliannau i ddysgwyr ac/neu eu teuluoedd?
- Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda yn yr ysgol, y sector a thu hwnt?
Gwybodaeth am yr ysgol/y darparwr
Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn ysgol bob oed (3-18 oed) cyfrwng Cymraeg sy’n gwasanaethu cymuned eang o fewn Sir Bro Morgannwg. Lleolir yr ysgol yn y Barri, mewn ardal nad yw’n draddodiadol Gymraeg. Mae 1431 o ddisgyblion ar y gofrestr gyda 37.2% yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd. Mae 11.1% o ddisgyblion yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim ac mae 4.4% o ddisgyblion ar y gofrestr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
Mae Cymreictod yn un o werthoedd craidd yr ysgol ac yn sail i’w gweledigaeth addysgol. Mae gan staff ddealltwriaeth gadarn o’u rolau wrth ddatblygu medrau iaith disgyblion a hyrwyddo defnydd y Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol. Nod gweledigaeth yr ysgol yw meithrin Cymry balch sy’n dewis defnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng naturiol i gyfathrebu yn y dosbarth, ar hyd coridorau’r ysgol ac mewn gweithgareddau allgyrsiol.
Mae’r ysgol yn cydnabod bod angen creu amgylchedd lle mae’r Gymraeg yn cael ei gweld fel iaith fyw sydd â gwerth cymdeithasol, diwylliannol a phroffesiynol. Mae Cymreictod wedi’i blethu i bob agwedd ar fywyd yr ysgol ac yn rhan annatod o’r cwricwlwm, y ddarpariaeth fugeiliol, gweithgareddau allgyrsiol a diwylliant dyddiol yr ysgol. Mae strategaethau, gweithgareddau a phrofiadau dysgu wedi’u cynllunio i gryfhau hunaniaeth Gymraeg y disgyblion a’u hannog i ddefnyddio’r iaith yn naturiol ac yn hyderus.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Mae’r ysgol wedi datblygu sawl strategaeth i wireddu’r weledigaeth gan gynnwys ymgyrch ‘Siarada Gymraeg gyda fi’. Bob bore Llun, mae pob blwyddyn yn cymryd rhan mewn sesiynau llafaredd strwythuredig sy’n cynnwys gweithgareddau trafod, ymarfer patrymau iaith a defnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau cymdeithasol. Mae disgyblion Blwyddyn 12 a 13 yn arwain y sesiynau hyn ar gyfer dosbarthiadau cofrestru ar draws yr ysgol, gan ddatblygu eu medrau arwain a darparu modelau rôl cadarnhaol i ddisgyblion iau. Yn ogystal, mae myfyrwyr y chweched dosbarth yn trefnu sesiynau gemau buarth gyda disgyblion Dysgu Sylfaen. Mae’r rhyngweithio hwn yn cryfhau’r defnydd naturiol o’r Gymraeg tra hefyd yn adeiladu cysylltiadau cryf rhwng gwahanol gyfnodau addysg.
Mae strategaeth ‘Llais y Fro’ yn ganolog i ddatblygu medrau llafaredd disgyblion ar draws yr ysgol. Mae’r fenter yn rhan annatod o strategaeth addysgeg yr ysgol ac yn sicrhau bod tasgau llafaredd wedi’u hymgorffori ym mhob gwers o’r dosbarth Meithrin hyd at Flwyddyn 13. Caiff patrymau a strwythurau iaith eu cyflwyno’n fwriadol mewn gwersi a sesiynau bugeiliol er mwyn rhoi hyder ieithyddol i ddisgyblion ddefnyddio’r Gymraeg mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Darperir dysgu proffesiynol pwrpasol ac adnoddau i staff i’w cefnogi. Mae’r defnydd o idiomau wythnosol a gweithgareddau iaith ar sgriniau digidol ledled yr ysgol yn atgyfnerthu’r gwaith hwn. Drwy gysylltu’r gweithgareddau hyn â rhaglen waith Adran y Gymraeg, mae’r ysgol yn sicrhau bod datblygiad iaith yn gyson a chydlynol.
Mae’r Pwyllgor Cymreictod yn chwarae rhan flaenllaw wrth hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith gymdeithasol. Dan arweiniad y prif ddisgyblion ac mewn partneriaeth â swyddog yr Urdd, mae cynrychiolwyr o bob blwyddyn yn cyfrannu at gynllunio a gweithredu rhaglen flynyddol o weithgareddau. Mae’r pwyllgor yn trefnu digwyddiadau megis gigs Cymraeg mewn partneriaeth â’r Urdd. Trwy roi cyfrifoldeb uniongyrchol i ddisgyblion am hyrwyddo’r Gymraeg, mae disgyblion yn cael cyfleoedd gwerthfawr i ddylanwadu ar eu cyfoedion ac ar eu harferion ieithyddol dyddiol.
Mae’r ysgol yn cynnig rhaglen eang ac amrywiol o weithgareddau allgyrsiol sy’n darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Gyda dros 70 o glybiau ar gael, ceir rhywbeth at ddant pob disgybl, o ganu a cherddoriaeth i gôdio, chwaraeon, celfyddydau creadigol a gemau strategol. Mae’r cyfleoedd hyn yn caniatáu i ddisgyblion ddatblygu eu talentau tra’n defnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau ystyrlon a chreadigol. Trefnir teithiau addysgol a diwylliannol fel bod disgyblion yn cael cyfleoedd i brofi’r Gymraeg fel iaith fyw ac amrywiol mewn gwahanol ardaloedd o Gymru.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a deilliannau i ddysgwyr ac/neu eu teuluoedd?
Mae’r gwaith hwn wedi arwain at greu diwylliant ysgol lle mae’r Gymraeg yn cael ei gwerthfawrogi a’i defnyddio’n naturiol gan ddisgyblion mewn gwersi, yn ystod amseroedd cymdeithasol ac mewn gweithgareddau allgyrsiol. Mae agweddau’r rhan fwyaf o ddisgyblion at yr iaith Gymraeg yn gadarnhaol iawn ac maent yn ei harddel â balchder a hyder. Yn yr ysgol isaf, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud y cynnydd disgwyliedig yn eu medrau llafaredd. Yn yr ysgol uchaf, mae llawer o ddisgyblion yn cyfrannu at drafodaethau dosbarth ac wrth weithio gydag eraill yn hyderus ac estynedig. Yn ogystal, caiff hyn effaith gadarnhaol ar fedrau darllen ac ysgrifennu disgyblion.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda yn yr ysgol, y sector a thu hwnt?
Mae’r ysgol yn rhannu ei harferion llwyddiannus trwy ymweliadau proffesiynol, cydweithio ag ysgolion eraill a gweithio’n agos gyda sefydliadau cenedlaethol megis yr Urdd. Mae gweithgareddau’r Pwyllgor Cymreictod, y fenter ‘Siarada Gymraeg gyda Fi’ a’r strategaeth ‘Llais y Fro’ wedi eu rhannu gydag ysgolion eraill sy’n awyddus i gryfhau defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg ymhlith eu disgyblion.