Effaith dysgu proffesiynol ar lawr y dosbarth - Estyn

Effaith dysgu proffesiynol ar lawr y dosbarth

Arfer effeithiol

Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg

Disgyblion yn codi eu dwylo yn ystod gwers yn yr ystafell ddosbarth dan arweiniad athro neu athrawes.

Gwybodaeth am yr ysgol/y darparwr

Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn ysgol bob oed (3-18 oed) cyfrwng Cymraeg sy’n gwasanaethu cymuned eang o fewn Sir Bro Morgannwg. Lleolir yr ysgol yn y Barri, mewn ardal nad yw’n draddodiadol Gymraeg. Mae 1431 o ddisgyblion ar y gofrestr gyda 37.2% yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd. Mae 11.1% o ddisgyblion yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim ac mae 4.4% o ddisgyblion ar y gofrestr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae dysgu proffesiynol yn elfen ganolog o waith yr ysgol ac yn sail i’w huchelgais i ddarparu’r profiadau dysgu gorau posibl i bob disgybl. Mae datblygu dysgu ac addysgu yn flaenoriaeth strategol allweddol. Cred yr ysgol yn gryf mai datblygu staff yw’r dull mwyaf effeithiol o wella addysgu, cyfoethogi profiadau dysgu a chodi safonau disgyblion.

Caiff rhaglen dysgu proffesiynol strategol ei llunio’n flynyddol yn deillio’n uniongyrchol o brosesau hunanwerthuso yr ysgol ‘Canfod, Rhannu a Chysoni’. Trwy’r broses hon, mae’r ysgol yn adnabod meysydd datblygu, yn ymchwilio i arferion effeithiol ac yn sicrhau bod yr hyn a ddysgir yn cael ei ymgorffori’n gyson yn rhan o arferion addysgu dydd i ddydd ei hathrawon.

Mae’r ysgol hefyd yn gweithredu fel Sefydliad sy’n Dysgu. Rhennir y rhesymeg hon gyda staff yn flynyddol, gan ganolbwyntio’n benodol ar dri o’r saith dimensiwn allweddol:

  • Creu a chefnogi cyfleoedd dysgu parhaus i bob aelod o staff.
  • Hyrwyddo dysgu mewn tîm a chydweithio ymhlith pob aelod o staff.
  • Sefydlu diwylliant o ymholi, arloesi ac archwilio.

Trwy roi’r egwyddorion hyn ar waith, mae’r ysgol wedi meithrin amgylchedd lle mae dysgu proffesiynol yn gyfrifoldeb ar y cyd ac yn rhan naturiol o waith pob athro a chynorthwyydd addysgu.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Er mwyn sicrhau cysylltiad uniongyrchol rhwng dysgu proffesiynol a gwelliannau mewn addysgu a dysgu, mae ymholi proffesiynol yn ffurfio rhan annatod o raglen datblygu a gwerthuso yr ysgol. Mae hyn yn sicrhau bod pob gweithgaredd datblygu yn canolbwyntio ar ddatblygu ymarfer gan ystyried sut mae’n cyfrannu’n uniongyrchol at wella profiadau a safonau disgyblion.

Mae staff yn gweithio mewn triawdau proffesiynol ac yn dilyn proses ymholi strwythuredig pum cam:

Cam 1: Creu cwestiwn ymholi

Mae pob triawd yn llunio cwestiwn ymholi penodol ar sail blaenoriaeth yn y cynllun gwella ysgol (CGY). Mae’r cwestiynau hyn yn deillio o ystyried anghenion disgyblion ac yn canolbwyntio ar wella profiadau neu ddeilliannau dysgu.

Cam 2: Ymchwilio a chynllunio

Mae aelodau’r triawd yn gwneud ymchwil berthnasol, er enghraifft trwy ddarllen, ymweld â sefydliadau eraill neu fynychu cyrsiau/seminarau/cynadleddau. Maent yn adolygu arferion effeithiol ac yn cynllunio ymyrraeth neu strategaeth addysgu newydd i’w threialu.

Cam 3: Treialu ar lawr y dosbarth

Caiff y strategaeth ei gweithredu yn yr ystafell ddosbarth dros gyfnod penodol. Mae athrawon yn monitro ymatebion y disgyblion ac yn casglu tystiolaeth ynghylch effaith y dull ar ymgysylltiad, dealltwriaeth a chynnydd disgyblion.

Cam 4: Arsylwi a gwerthuso

Mae aelodau’r triawd yn arsylwi arferion ei gilydd er mwyn casglu tystiolaeth ychwanegol. Mae’r broses yn pwysleisio cydweithio ac adborth adeiladol, gan greu diwylliant agored lle mae staff yn teimlo’n gyfforddus yn rhannu llwyddiannau a heriau.

Cam 5: Adrodd a rhannu canfyddiadau

Ar ddiwedd y broses, mae pob triawd yn crynhoi’r dystiolaeth a’r canfyddiadau ar ffurf dogfen un dudalen. Rhennir y casgliadau hyn mewn sesiynau staff er mwyn sicrhau bod dysgu proffesiynol yn cael ei ledaenu’n eang ar draws yr ysgol.

Mae’r ysgol wedi sefydlu llinell amser glir a strwythuredig ar gyfer y gwaith ymholi fel bod cysondeb a momentwm. Mae cyfnodau amser penodol wedi’u clustnodi ar gyfer trafodaethau triawd, arsylwadau a chyfleoedd i adolygu cynnydd. Mae hyn wedi helpu i sicrhau bod yr ymchwil yn canolbwyntio ar weithredu ac effaith yn hytrach nag aros ar lefel ddamcaniaethol yn unig.

Effaith ar ddarpariaeth a safonau disgyblion

Mae’r dull hwn wedi llwyddo i sefydlu diwylliant ysgol gyfan o ymholi, lle mae pob aelod o staff yn cyfrannu’n weithredol at wella’r ddarpariaeth. Nid yw dysgu proffesiynol bellach yn cael ei weld fel gweithgaredd unigol nac yn rhywbeth sy’n digwydd ar wahân i waith dyddiol yr ysgol; yn hytrach, mae wedi dod yn rhan ganolog o ddatblygu addysgeg ac arferion dysgu.

Mae’r broses yn plethu’n effeithiol â model ‘Canfod, Rhannu a Chysoni’ yr ysgol. Yn y cam ‘Canfod’, mae triawdau yn ymchwilio, yn arbrofi ac yn casglu tystiolaeth ynghylch effeithiolrwydd dulliau addysgu newydd. Yn ystod y cam ‘Rhannu’, caiff yr arferion mwyaf llwyddiannus eu lledaenu ar dair lefel: o fewn adrannau unigol, ar draws adrannau, ac ar draws yr ysgol gyfan. Mae hyn yn cynnwys staff o bob rhan o’r ysgol, o’r Dysgu Sylfaen hyd at Flwyddyn 13. Yn y cam ‘Cysoni’, defnyddir y canfyddiadau i lywio datblygiadau ehangach megis addasu rhaglenni astudio, mabwysiadu dulliau addysgu newydd neu fireinio prosesau asesu.

Mae’r broses ymholi wedi cael effaith sylweddol ar brofiadau disgyblion ac ar ddatblygiad addysgu ar draws yr ysgol. Trwy ymchwilio i arferion addysgegol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, mae disgyblion wedi elwa ar weithgareddau dysgu mwy effeithiol, diddorol a gafaelgar. Mae datblygu gweithgareddau mwy pwrpasol, arloesol a chyfoethog wedi ennyn diddordeb disgyblion ac wedi eu hannog i gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain.. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar gynnydd, hyder a chymhelliant disgyblion ar draws ystod o bynciau a grwpiau oedran.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda yn yr ysgol, y sector a thu hwnt?

Mae rhannu arfer da yn elfen hanfodol o lwyddiant y model. Cynhelir sesiynau rhannu arfer ysgol gyfan yn rheolaidd lle mae staff yn cyflwyno canfyddiadau eu hymholiadau ac yn trafod yr effaith ar addysgu a dysgu. Mae’r sesiynau hyn yn hyrwyddo trafodaeth broffesiynol gyfoethog ac yn helpu i ledaenu syniadau llwyddiannus ar draws yr ysgol gyfan.

Yn ogystal â hyn, mae arferion effeithiol yn cael eu rhannu mewn cyfarfodydd adrannol ac mewn fforymau traws-adrannol, gan sicrhau bod y dysgu’n cael ei drosglwyddo rhwng gwahanol feysydd pwnc a chyfnodau addysg. Mae’r dull hwn wedi cyfrannu at ddatblygu cymuned ddysgu broffesiynol gref lle mae cydweithio a gwelliant parhaus wrth wraidd pob penderfyniad. Mae’r arferion hefyd yn cael eu rhannu gyda sefydliadau allanol trwy rwydweithiau.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn