Cynllunio a chydlynu’r ddarpariaeth ar gyfer y medrau (llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol) yn bwrpasol i gyfoethogi pynciau ar draws y cwricwlwm yn effeithiol
Quick links:
- Gwybodaeth am yr ysgol/y darparwr
- Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
- Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
- Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a deilliannau i ddysgwyr ac/neu eu teuluoedd?
- Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda yn yr ysgol, y sector a thu hwnt?
Gwybodaeth am yr ysgol/y darparwr
Mae Ysgol Y Strade yn ysgol gyfun ddwyieithog sy’n darparu addysg ar gyfer disgyblion 11-18 oed yn awdurdod lleol Caerfyrddin. Lleolir yr ysgol yn agos at yr arfordir, ar ochr orllewinol Llanelli. Mae 1,270 o ddisgyblion yn yr ysgol gyda 182 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth. Mae dalgylch yr ysgol yn ymestyn ar hyd arfordir de-ddwyrain Sir Gaerfyrddin, o’r Fforest a’r Hendy yn y dwyrain i Gydweli yn y gorllewin. Daw’r rhan fwyaf o ddisgyblion o Lanelli a’r pentrefi cyfagos.
Penodwyd y pennaeth i’w swydd ym Medi 2017. Mae’r tîm arwain hefyd yn cynnwys dirprwy bennaeth a phedwar pennaeth cynorthwyol.
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
Yn sgil dyfodiad Cwricwlwm i Gymru, nododd arweinwyr yr ysgol yr angen i sicrhau bod datblygiad medrau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn cael ei gynllunio’n fwriadus ac yn gydlynol ar draws pob Maes Dysgu a Phrofiad, gan gefnogi dilyniant clir ym mhrofiadau dysgu disgyblion dros amser. Roedd yr ysgol yn awyddus i symud y tu hwnt i fapio medrau arwynebol tuag at fodel cynllunio cwricwlaidd a oedd yn integreiddio’r medrau’n naturiol o fewn cyd-destunau dilys ar draws y pynciau.
Er mwyn cyflawni hyn, datblygodd arweinwyr fodel cynllunio ysgol gyfan ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 i 9 yn seiliedig ar egwyddorion sy’n blaenoriaethu cynnydd disgyblion. Dyma sydd wrth wraidd y broses gynllunio, gan gefnogi adrannau i nodi’n glir pa fedrau oedd yn cael eu datblygu, sut roeddent yn adeiladu ar ddysgu blaenorol a sut roeddent yn cyfrannu at ddilyniant ar hyd y continwwm dysgu.
Fel rhan o’r gwaith hwn, gweithiodd yr ysgol yn agos gyda’i hysgolion cynradd partner i ddatblygu continwwm medrau 3–16, yn enwedig ym meysydd darllen, ysgrifennu a rhifedd. Galluogodd hyn i arweinwyr ddefnyddio gwybodaeth bontio yn fwy strategol wrth gynllunio darpariaeth a sicrhau bod cyfleoedd i ddatblygu’r medrau yn adeiladu’n systematig ar brofiadau blaenorol disgyblion.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Mae’r model cynllunio, sy’n seiliedig ar egwyddorion ‘cynllunio am nôl’, yn annog athrawon i ddechrau gyda diffiniad clir o ‘hanfod y dysgu’ a’r cynnydd disgwyliedig cyn cynllunio profiadau dysgu priodol. O ganlyniad, caiff mapio’r medrau ei integreiddio’n fwriadol i gynlluniau dysgu adrannol ac mae’n cyfrannu’n uniongyrchol at gynllunio dilyniant dros amser.
I gefnogi’r broses hon ar draws yr ysgol, datblygodd arweinwyr fframwaith mapio medrau ysgol gyfan sy’n trefnu’r medrau o fewn tri chategori allweddol, sef ‘Cyfathrebu, Meddwl a Dysgu’. Defnyddir y fframwaith hwn gan bob Maes Dysgu a Phrofiad i nodi’n fwriadol pa fedrau sy’n cael eu datblygu o fewn pob uned o waith a sut maent yn adeiladu ar brofiadau blaenorol y disgyblion. Mae hyn yn galluogi adrannau i gynllunio cyfleoedd penodol i ddatblygu’r medrau fel rhan annatod o’r cynnwys pwnc, yn hytrach nag fel gweithgareddau ychwanegol ar wahân.
Er mwyn cefnogi hyn ymhellach, datblygodd arweinwyr system ‘cipio cynnydd ysgol gyfan’ ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 i 9 i fonitro datblygiad y medrau dros amser ar draws y cwricwlwm. Defnyddir y system hon ochr yn ochr â gwybodaeth bontio o’r ysgolion cynradd partner i nodi cryfderau a meysydd i’w datblygu ym medrau disgyblion yn gynnar yn eu cyfnod yn yr uwchradd.
Mae cydlynwyr llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn cydweithio’n agos ag uwch arweinwyr i werthuso effaith y ddarpariaeth drwy weithgareddau monitro ysgol gyfan, gan gynnwys craffu ar waith disgyblion, arsylwadau gwersi, teithiau dysgu a thrafodaethau gyda disgyblion. Defnyddir canfyddiadau’r gweithgareddau hyn i lywio blaenoriaethau gwella adrannol ac ysgol gyfan. Mae’r gweithgareddau monitro hyn yn rhan annatod o drefniadau ‘Gwerthuso a Gwella’ yr ysgol ac yn cysylltu’n uniongyrchol â’r rhaglen dysgu proffesiynol ‘Gwella gyda’n Gilydd’, gan sicrhau bod datblygiad y medrau yn parhau’n ganolog i flaenoriaethau’r ysgol.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a deilliannau i ddysgwyr ac/neu eu teuluoedd?
Mae’r dull ysgol gyfan o gynllunio datblygiad medrau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol wedi sicrhau bod y medrau hyn wedi’u hintegreiddio’n fwriadus i brofiadau dysgu ar draws y cwricwlwm. O ganlyniad, mae disgyblion yn cael cyfleoedd rheolaidd i ddatblygu a chymhwyso eu medrau mewn cyd-destunau pwnc perthnasol, ac mae llawer yn gwneud cynnydd cadarn wrth eu defnyddio’n hyderus mewn gwahanol bynciau. Er enghraifft, yn eu gwersi Cymraeg a Saesneg, mae rhaglenni darllen megis Dim ond Darllen yn cefnogi disgyblion i ddehongli testunau’n fwy hyderus drwy fynegi ymatebion ar lafar cyn ysgrifennu. Yn eu gwersi hanes, mae disgyblion yn datblygu eu medrau ysgrifennu estynedig drwy ddadansoddi a gwerthuso pa mor werthfawr yw amrywiaeth o ffynonellau hanesyddol, er enghraifft wrth astudio mudiad y Siartwyr a’r frwydr dros hawliau ym Mlwyddyn 7.
Mae cyfleoedd pwrpasol i gymhwyso medrau rhifedd mewn pynciau megis daearyddiaeth a thechnoleg yn galluogi disgyblion i ddehongli data, llunio a dadansoddi graffiau ac ymgymryd â thasgau datrys problemau mewn cyd-destunau ystyrlon. Er enghraifft, yn eu gwersi daearyddiaeth ym Mlwyddyn 8, mae disgyblion yn dadansoddi setiau data poblogaeth ac yn llunio a dehongli graffiau i gymharu patrymau daearyddol. Yn eu gwersi Tecstilau ym Mlwyddyn 9, mae disgyblion yn defnyddio’r pedwar gweithrediad i wneud penderfyniadau ariannol ar sail gwybodaeth, er enghraifft wrth gymharu costau deunyddiau a chymhwyso gostyngiadau a chynigion arbennig wrth gynllunio a chreu bag ‘tote’.
Mae disgyblion hefyd yn datblygu eu medrau digidol yn effeithiol drwy ddarpariaeth bwrpasol yn eu gwersi digidol, ynghyd â chyfleoedd pellach ar draws y cwricwlwm i ddefnyddio technoleg i gynllunio, recordio a golygu gwaith. Er enghraifft maent yn ffilmio a gwerthuso perfformiadau mewn gwersi drama.
Mae aliniad cryf rhwng gweithgareddau gwerthuso ysgol gyfan a rhaglen dysgu broffesiynol yr ysgol, Gwella gyda’n Gilydd, sy’n sicrhau bod datblygiad medrau’r dysgwyr yn ganolog i ffocws dysgu proffesiynol staff. Trwy ganolbwyntio ar strategaethau addysgu megis holi effeithiol, datblygu llafaredd a darparu adborth amserol, mae staff yn cryfhau gallu disgyblion i fynegi eu syniadau’n gliriach ar lafar ac yn ysgrifenedig ac i wella ansawdd eu gwaith yn fwy annibynnol. O ganlyniad, mae llawer o ddisgyblion yn cymhwyso eu medrau’n hyderus ar draws y cwricwlwm ac yn adeiladu’n gadarn ar eu dysgu dros amser.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda yn yr ysgol, y sector a thu hwnt?
Mae arweinwyr wedi rhannu’r model cynllunio cwricwlaidd a threfniadau mapio’r medrau drwy gyfleoedd dysgu proffesiynol ysgol gyfan a thrwy gydweithio rheolaidd rhwng cydlynwyr y medrau a phenaethiaid adrannau. Mae hyn wedi cefnogi dealltwriaeth gyson ymhlith staff o sut i gynllunio ar gyfer datblygiad y medrau ar draws y cwricwlwm.
Yn ogystal, mae’r ysgol wedi cydweithio’n agos â’i chlwstwr o ysgolion cynradd i ddatblygu continwwm medrau 3–16, gan rannu arferion cynllunio a defnyddio data pontio i gefnogi dilyniant mewn dysgu.
Mae arweinwyr yr ysgol hefyd wedi cyfrannu at raglenni dysgu proffesiynol cenedlaethol ac wedi rhannu eu profiad o ddylunio cwricwlwm a mapio medrau gyda chydweithwyr ar draws y sector drwy gyfleoedd hyfforddi a chyflwyno ar lefel genedlaethol.