Cyfleoedd effeithiol i ddisgyblion gymryd rôl flaenllaw wrth arwain
Quick links:
- Gwybodaeth am yr ysgol/y darparwr
- Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
- Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
- Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a deilliannau i ddysgwyr ac/neu eu teuluoedd?
- Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda yn yr ysgol, y sector a thu hwnt?
Gwybodaeth am yr ysgol/y darparwr
Mae Ysgol Y Strade yn ysgol gyfun ddwyieithog sy’n darparu addysg ar gyfer disgyblion 11-18 oed yn awdurdod lleol Caerfyrddin. Lleolir yr ysgol yn agos at yr arfordir, ar ochr orllewinol Llanelli. Mae 1,270 o ddisgyblion yn yr ysgol gyda 182 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth. Mae dalgylch yr ysgol yn ymestyn ar hyd arfordir de-ddwyrain Sir Gaerfyrddin, o’r Fforest a’r Hendy yn y dwyrain i Gydweli yn y gorllewin. Daw’r rhan fwyaf o ddisgyblion o Lanelli a’r pentrefi cyfagos.
Penodwyd y pennaeth i’w swydd ym Medi 2017. Mae’r tîm arwain hefyd yn cynnwys dirprwy bennaeth a phedwar pennaeth cynorthwyol.
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
Mae’r ysgol yn rhoi pwyslais cryf ar ddatblygu disgyblion fel unigolion hyderus sy’n cyfrannu’n weithredol at fywyd yr ysgol a’u cymuned ehangach fel aelodau gwerthfawr o deulu’r Strade. O fewn y weledigaeth hon, mae arweinyddiaeth disgyblion yn elfen ganolog o ddiwylliant yr ysgol, gyda strwythurau clir sy’n sicrhau cyfleoedd dilys i ddisgyblion gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau a llywio datblygiadau ysgol gyfan.
Dros gyfnod o amser, mae arweinwyr yr ysgol wedi datblygu system gynhwysfawr o strwythurau arweinyddiaeth i ddisgyblion sy’n ymestyn y tu hwnt i weithgareddau ymgynghori traddodiadol. Mae’r dull hwn yn galluogi disgyblion i arwain mentrau, cyd-lunio polisïau ac ymgymryd â chyfrifoldebau penodol sy’n cael effaith uniongyrchol ar brofiadau dysgu a lles disgyblion ar draws yr ysgol.
Mae’r strwythur hwn wedi ei wreiddio o fewn gwaith y Cyngor Ysgol ‘Llais y Strade’ a’i is-bwyllgorau thematig, sy’n canolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth megis yr amgylchedd, Cymreictod, cyfleusterau a lles. Trwy’r gwaith hwn, mae disgyblion yn cyfrannu’n rheolaidd at flaenoriaethau ysgol gyfan ac yn datblygu fel arweinwyr gweithredol o fewn cymuned yr ysgol.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Mae gwaith y Cyngor Ysgol wedi arwain at gyd-lunio Siarter y Dysgwyr, sy’n crynhoi gwerthoedd a disgwyliadau’r ysgol ac sydd bellach yn weladwy ym mhob ystafell ddosbarth. Mae’r siarter hon yn darparu fframwaith cyson ar gyfer hyrwyddo safonau uchel o ymddygiad, parch a chyfrifoldeb ar draws yr ysgol.

Mae aelodau o’r Cyngor Ysgol hefyd yn cyflwyno safbwyntiau disgyblion yn rheolaidd i’r corff llywodraethol, gan sicrhau cyfraniad uniongyrchol disgyblion at drafodaethau a phenderfyniadau ar lefel ysgol gyfan. Caiff disgyblion eu cefnogi gan staff cyswllt sy’n hwyluso’r gwaith a’u cynorthwyo i gynllunio a gweithredu’r mentrau mewn modd effeithiol.
Yn ogystal â gwaith y Cyngor Ysgol, mae’r ysgol yn darparu ystod eang o gyfleoedd pellach i ddisgyblion ddatblygu eu medrau arweinyddiaeth drwy gymryd rhan mewn mentrau ysgol gyfan ar draws meysydd megis Cymreictod, lles a chwaraeon. Mae disgyblion yn cyfrannu’n weithredol at drefnu digwyddiadau ysgol gyfan, arwain ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth a chynorthwyo disgyblion iau drwy rolau mentora pwrpasol. Er enghraifft, mae Llysgenhadon Chwaraeon ac aelodau o Bwyllgor Lles a Chwaraeon Blwyddyn 7-9 yn arwain gweithgareddau ar gyfer ysgolion cynradd y clwstwr a’n cyfrannu at fentrau lles a gwrth-fwlio. Yn ogystal, mae disgyblion yn arwain mentrau gwyddoniaeth a thechnoleg , fel y Clwb Rasio a phrosiectau adeiladu robotiaid sy’n datblygu eu medrau cydweithio a datrys problemau mewn cyd-destunau dilys.
Mae disgyblion y chweched dosbarth yn chwarae rôl arweiniol bwysig wrth gydlynu gwaith pwyllgorau ysgol gyfan sy’n hyrwyddo gwaith elusennol, Cymreictod, iechyd a lles a chyfathrebu. Trwy’r gwaith hwn, maent yn trefnu digwyddiadau ysgol gyfan, arwain mentrau cymunedol ac yn cyfrannu at ddatblygu cyfleoedd i ddisgyblion eraill gymryd rhan ym mywyd yr ysgol. Er enghraifft, mae’r Pwyllgor Elusennau yn trefnu apêl wyau Pasg blynyddol i gasglu rhoddion ar gyfer Banc Bwyd lleol, gan gryfhau ymwybyddiaeth disgyblion o anghenion y gymuned leol. Yn ogystal, maent yn arwain mentrau megis gorsaf radio’r ysgol Sain y Sosban, sy’n cyfrannu’n wythnosol at sesiynau lles boreol, ac yn cefnogi trefniadau mentora wythnosol i ddisgyblion Blwyddyn 7. Mae’r cyfleoedd hyn yn galluogi disgyblion hŷn i osod eu stamp ar ddatblygiadau’r ysgol a datblygu fel arweinwyr hyderus sy’n cyfrannu’n weithredol at gymuned y Strade.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a deilliannau i ddysgwyr ac/neu eu teuluoedd?
Mae cyfleoedd rheolaidd i ddisgyblion gymryd rôl arweiniol ym mywyd yr ysgol wedi cyfrannu at ddiwylliant lle mae disgyblion yn teimlo bod eu safbwyntiau’n cael eu gwerthfawrogi ac yn dylanwadu’n ystyrlon ar ddatblygiadau ysgol gyfan. O ganlyniad, mae disgyblion yn cymryd rhan weithredol mewn mentrau sy’n gwella amgylchedd yr ysgol, darpariaeth lles a chyfleoedd i hyrwyddo Cymreictod. Er enghraifft, arweiniodd gwaith disgyblion ar faterion amgylcheddol at gyflwyno ymgyrch ysgol gyfan i wella trefniadau ailgylchu a lleihau sbwriel ar y safle, ynghyd â newidiadau i drefniadau’r ffreutur er mwyn lleihau defnydd o blastig untro. Mae’r newidiadau hyn wedi cyfrannu at welliant amlwg yn amgylchedd yr ysgol.
Mae disgyblion hefyd wedi chwarae rôl flaenllaw wrth hyrwyddo Cymreictod drwy sefydlu cyfleoedd cymdeithasol i ddefnyddio’r Gymraeg a chyfrannu at newidiadau i drefniadau’r Eisteddfod ysgol gyfan er mwyn sicrhau cyfranogiad ehangach ar draws pob grŵp blwyddyn. Mae mentrau megis gorsaf radio’r ysgol Sain y Sosban, yn cefnogi gallu disgyblion hŷn i rhannu negeseuon cadarnhaol a hyrwyddo cerddoriaeth gyfoes Gymraeg ar draws yr ysgol. Mae hyn oll wedi cryfhau ymdeimlad o berthyn a hunaniaeth ymhlith y disgyblion.
Yn ogystal, mae cyfraniad disgyblion at fentrau lles wedi arwain at ddatblygu ymgyrchoedd gwrth-fwlio a dylanwadu ar gynnwys darpariaeth diwrnodau lles ysgol gyfan. Mae hyn wedi cefnogi datblygu amgylchedd dysgu cefnogol sy’n ymateb yn effeithiol i anghenion disgyblion.
Mae cyfleoedd arweinyddiaeth ehangach drwy fentora disgyblion iau, arwain mentrau chwaraeon ac eco, a chyfrannu at weithgareddau gwyddonol wedi galluogi disgyblion i ddatblygu eu hyder, medrau cyfathrebu a medrau trefnu. O ganlyniad, mae disgyblion yn datblygu fel unigolion cyfrifol sy’n cyfrannu’n weithredol at fywyd yr ysgol a’r gymuned ehangach.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda yn yr ysgol, y sector a thu hwnt?
Mae’r ysgol yn rhannu gwaith arweinyddiaeth disgyblion yn rheolaidd drwy gyflwyniadau i ddosbarthiadau cofrestru, gwasanaethau ysgol gyfan a chyfathrebu drwy lwyfannau digidol yr ysgol a’r cylchlythyr Straeon o’r Strade ar ddiwedd pob hanner tymor. Mae hyn yn sicrhau bod pob disgybl yn ymwybodol o effaith gwaith y Cyngor Ysgol a’r pwyllgorau ac yn cael cyfleoedd i gyfrannu at eu blaenoriaethau.
Mae disgyblion hefyd yn rhannu eu gwaith drwy arwain ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth ysgol gyfan a thrwy gyflwyno eu syniadau a’u blaenoriaethau i’r corff llywodraethol yn rheolaidd, gan gryfhau eu rôl fel cyfranwyr gweithredol at ddatblygiadau’r ysgol.
Yn ogystal, mae’r ysgol yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion arwain mentrau ar y cyd â sefydliadau allanol a phartneriaid cymunedol, megis elusennau lleol a mudiadau cymunedol. Mae hyn yn ehangu effaith eu gwaith y tu hwnt i’r ysgol a chryfhau eu rôl fel dinasyddion gweithredol o fewn eu cymuned.