A2 cael prosesau systematig ar waith i fesur y galw am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
A3 gweithio gydag ysgolion i esbonio wrth ddisgyblion a rhieni beth yw manteision addysg cyfrwng Cymraeg a dilyn cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg
A4 gweithio gydag ysgolion i osod targedau i gynyddu cyfran y disgyblion yng nghyfnod allweddol 4 sy’n parhau i astudio Cymraeg fel mamiaith ac yn dilyn meysydd sy’n benodol i bwnc trwy gyfrwng y Gymraeg
A5 gwneud defnydd effeithiol o’u fforymau addysg cyfrwng Cymraeg i helpu i ddatblygu eu CSCA a monitro cynnydd
A6 arfarnu eu darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg i nodi unrhyw fylchau
Dylai Llywodraeth Cymru:
A7 sicrhau bod y targedau y cytunwyd arnynt yn y CSCAau yn adlewyrchu’r dyheadau yn eu strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg
A8 sicrhau bod yr holl awdurdodau lleol yn rhoi digon o bwysigrwydd strategol i gyflawni’r targedau yn y CSCAau