Arfer Effeithiol |

Dull cydweithredol o gefnogi ymddygiad cadarnhaol

Share this page

Nifer y disgyblion
223
Ystod oedran
3-19
Dyddiad arolygiad
 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol y Gogarth yn ysgol arbennig ddydd a phreswyl wedi’i lleoli yn nhref arfordirol Llandudno. Dyma’r unig ysgol arbennig a gynhelir gan awdurdod lleol Conwy. Ar hyn o bryd, mae 223 o ddisgyblion rhwng 3 ac 19 oed ar y gofrestr. Mae gan bob un o’r disgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig ar gyfer anawsterau dysgu cymedrol a difrifol, anawsterau dysgu dwys a lluosog neu anhwylderau’r sbectrwm awtistig. Mae’r ysgol yn rheoli cyfleuster preswyl sy’n cynnig lleoliadau tymor byr i ddisgyblion sy’n mynychu’r ysgol.  Hefyd, mae’r ysgol yn cynnig cartref i nifer o wasanaethau allweddol eraill, gan gynnwys y tîm gwaith cymdeithasol ar gyfer plant ag anableddau, y tîm allgymorth ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig, y gwasanaeth cymorth synhwyraidd a chanolfan datblygiad plant, ar gyfer Conwy.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Yn 2010, dechreuodd Ysgol y Gogarth brosiect cydweithredol gyda Phrifysgol Bangor i ddatblygu arfer yn seiliedig ar dystiolaeth ym maes cymorth ymddygiad cadarnhaol.  Yn y lle cyntaf, cyflogodd yr ysgol ddadansoddwr ymddygiad a sicrhaodd ymgynghoriaeth gan y brifysgol gyda’r nod o dargedu disgyblion yr oedd eu hymddygiadau heriol yn golygu bod eu lleoliadau ysgol mewn perygl o chwalu.  Ers hynny, mae ffocws y gwaith hwn wedi ymestyn i gynnwys ymagweddau ataliol, ymyrryd yn gynnar, yn y cyfnod sylfaen, ac i ddatblygu ymagweddau ymddygiad cadarnhaol ysgol gyfan sy’n cynorthwyo disgyblion unigol i reoli’u hymddygiad eu hunain.  Mae’r gwaith wedi’i seilio ar gydweithio amlddisgyblaethol effeithiol ac mae’n mynd i’r afael  â datblygu medrau ymddygiadol, cymdeithasol, cyfathrebu ac addysgol disgyblion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu weithgaredd

Mae model cymorth ymddygiad cadarnhaol yr ysgol yn seiliedig ar gydweithio agos rhwng athrawon, dadansoddwyr ymddygiad a gweithwyr proffesiynol eraill.  Y nod yw addysgu’r medrau sydd eu hangen ar ddisgyblion i gyrraedd eu potensial llawn a lleihau rhwystrau rhag dysgu.  Mae dadansoddwyr ymddygiad yn cynorthwyo athrawon i ddylunio rhaglenni i wella cyfathrebu, addysgu medrau academaidd, a lleihau ymddygiadau sy’n tarfu ar eraill sydd yn rhwystro’r dysgu.  Dros gyfnod, mae’r ysgol wedi datblygu pedwar maes arfer ac ymchwil:

1) BESST (model Addysgu Prydeinig Cynnar Ysgolion Arbennig / British Early Special School Teaching model): dull addysgu a dull rheoli ystafell ddosbarth a ddatblygwyd gan yr ysgol mewn cydweithrediad â’r brifysgol ar gyfer disgyblion yn y cyfnod sylfaen

2) STEPS: rhaglen a ddatblygwyd gan yr ysgol i gynorthwyo disgyblion i reoli’u hymddygiad a’u hymgysylltiad eu hunain

3) Cynlluniau ymddygiad unigol i gynorthwyo disgyblion ag ymddygiad heriol

4) Ymagwedd ysgol gyfan at gymorth ymddygiad cadarnhaol

Mae’r dull BESST yn sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn y cyfnod sylfaen yn derbyn cwriclwm unigoledig wedi’i gynllunio i’w galluogi i ddysgu’n llwyddiannus.  Nod y model yw sicrhau bod disgyblion yn dysgu’r medrau sydd eu hangen arnynt i gyfathrebu a llwyddo yn yr ysgol, gan sicrhau profiad cadarnhaol o’r ysgol o’r dechrau’n deg.

Nod rhaglen STEPS yw cynorthwyo disgyblion y mae angen cymorth ychwanegol arnynt i reoli a monitro’u hymddygiad eu hunain, eu medrau cymdeithasol a’u hymgysylltiad â dysgu wrth iddynt symud drwy’r ysgol.  Mae’n cynnig cyfleoedd rheolaidd i ddisgyblion fyfyrio ar eu cynnydd, yn ymgorffori cymhelliannau i gyflawni ac yn cynnwys cyfleoedd perthnasol i gynyddu’n raddol lefel yr her o ran disgwyliadau o ymddygiad disgyblion.

Caiff cynlluniau ymddygiad unigol eu rhoi ar waith ar gyfer disgyblion y mae angen cymorth targedig pellach arnynt.  Mae’r rhain yn darparu ymagwedd gyson i staff sy’n eu galluogi i fynd i’r afael ag ymddygiadau sy’n rhwystro dysgu ac i roi’r rhain ar waith yn effeithiol ar draws y diwrnod ysgol.  Cynhelir asesiad ymddygiad gweithredol o ddisgyblion gan ddadansoddwyr ymddygiad a thimau dosbarth o athrawon a staff cymorth.  Wedyn, mae dadansoddwyr ymddygiad yn hyfforddi staff o ran y ffordd orau i weithredu’r cynlluniau, monitro’u heffaith a’u diwygio fel bo’r angen.  Mae hyfforddiant cyfathrebu gweithredol ar gyfer disgyblion yn elfen allweddol o’r rhan fwyaf o gynlluniau ymddygiad, gan alluogi disgyblion i gynyddu cyfathrebu priodol ac felly lleihau ymddygiadau heriol.

Mae’r ymagwedd ysgol gyfan at gymorth ymddygiad cadarnhaol yn ymgorffori’r holl strategaethau hyn mewn model rheoli ymddygiad sydd wedi’i strwythuro’n ofalus.  Mae’r ffocws ysgol gyfan hwn yn sicrhau bod disgyblion ym mhob cyfnod o’u haddysg yn ymgysylltu â disgwyliadau’r ysgol, ac mae’n darparu cyfleoedd rheolaidd ac ystyrlon i gydnabod cynnydd a chyflawniadau disgyblion.  Mae cysondeb a chydlyniant y model hwn yn galluogi ymagwedd gynyddol a fesul cam at ddatblygu ymddygiadau, gyda’r nod o effeithio’n gadarnhaol ar ddysgu ac annibyniaeth disgyblion yn yr ysgol a thu hwnt.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Ers y cydweithio cychwynnol gyda’r brifysgol, mae’r ysgol wedi cyflogi saith o ddadansoddwyr ymddygiad eraill i gynorthwyo ac arfarnu arfer, gan ehangu’u gwaith ar draws yr ysgol.  Mae’r model wedi galluogi’r holl ddisgyblion i gadw’u lleoliadau yn llwyddiannus yn yr ysgol.  Mae hyn wedi golygu, er enghraifft, na fu unrhyw waharddiadau parhaol o’r ysgol dros y tair blynedd diwethaf.  Caiff disgyblion eu cynnwys ym mhob agwedd ar yr ysgol ac mae ychydig ohonynt yn mynychu darpariaeth y brif ffrwd yn rheolaidd.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer mewn BESST drwy astudiaeth atgynhyrchu lle cynorthwywyd chwe ysgol i roi’r model BESST ar waith.  Roedd y cymorth hwn yn cynnwys mynychu cynhadledd, cyfarfodydd grŵp a deialog barhaus gyda’r ysgol.

Mae’r ysgol wedi rhannu’i gwaith yn datblygu’r rhaglen STEPS gydag ysgolion arbennig rhanbarthol drwy gyflwyniadau mewn cynadleddau a thrwy gydweithio rhwng ysgolion lleol.

Mae dadansoddwyr ymddygiad a gyflogwyd gan yr ysgol wedi cyflwyno’u gwaith yn y ddau faes mewn cynadleddau yn rhanbarthol ac yn rhyngwladol.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Cymorth i Ddal ati i Ddysgu |

Gwaith ymgysylltu: Diweddariad ar y sector ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) – gwanwyn 2021

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau o 25 o alwadau ffôn ymgysylltu a wnaed i ysgolion arbennig a gynhelir ac UCDau rhwng diwedd mis Hydref 2020 a dechrau mis Chwefror 2021. ...Read more
Adroddiad thematig |

Ysgolion cymunedol: teuluoedd a chymunedau wrth wraidd bywyd ysgol

Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar ddulliau hynod effeithiol o addysg gymunedol a ddefnyddir gan ysgolion cynradd, uwchradd, ysgolion pob oed ac ysgolion arbennig. ...Read more
Arfer Effeithiol |

Cyfnod pontio llwyddiannus i addysg bellach ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol

Roedd Ysgol y Gogarth yn allweddol o ran sefydlu grŵp amlddisgyblaethol oedd â nod o wella cyfnod pontio disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol rhwng yr ysgol ac addysg bellach. ...Read more