Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu 2026 - 2030 - Estyn

Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu 2026 – 2030


Mae’r strategaeth hon yn amlinellu sut byddwn ni’n defnyddio cyfathrebu ac ymgysylltu i:

  • Feithrin ymddiriedaeth ac ennyn hyder yn ein gwaith
  • Gwella dealltwriaeth o arolygu a gwelliant
  • Cryfhau ymgysylltu dwy ffordd â phartneriaid
  • Cefnogi gwelliant ar draws y system ar gyfer dysgwyr yng Nghymru

Bydd ein hymagwedd yn cael ei harwain gan fewnwelediad a thystiolaeth, yn canolbwyntio ar bartneriaid ac yn gydweithredol.

Mae ein rôl yn ei gwneud yn ofynnol i ni nid yn unig adrodd ar ansawdd ond hefyd i:

  • Esbonio canfyddiadau’n glir
  • Ymgysylltu â phartneriaid yn ystyrlon
  • Cefnogi gwelliant trwy fewnwelediad a chyfathrebu