Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu 2026 – 2030
Mae’r strategaeth hon yn amlinellu sut byddwn ni’n defnyddio cyfathrebu ac ymgysylltu i:
- Feithrin ymddiriedaeth ac ennyn hyder yn ein gwaith
- Gwella dealltwriaeth o arolygu a gwelliant
- Cryfhau ymgysylltu dwy ffordd â phartneriaid
- Cefnogi gwelliant ar draws y system ar gyfer dysgwyr yng Nghymru
Bydd ein hymagwedd yn cael ei harwain gan fewnwelediad a thystiolaeth, yn canolbwyntio ar bartneriaid ac yn gydweithredol.
Mae ein rôl yn ei gwneud yn ofynnol i ni nid yn unig adrodd ar ansawdd ond hefyd i:
- Esbonio canfyddiadau’n glir
- Ymgysylltu â phartneriaid yn ystyrlon
- Cefnogi gwelliant trwy fewnwelediad a chyfathrebu