Cyfarwyddwyr

Share this page

Cyfarwyddwyr Strategol

Jassa Scott – Strategic Director
Jassa Scott

Mae Jassa yn arwain ar ddatblygu a chyflwyno ein cyngor i Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys cyngor polisi ac adroddiadau arolwg. Hefyd, mae’n arwain ein gwaith ar feithrin gallu, gan gynnwys arfer effeithiol. Jassa yw’r arweinydd ar gyfer ein gwaith gydag awdurdodau lleol; consortia rhanbarthol; ac arolygu sectorau ôl-16, gan gynnwys addysg bellach, dysgu yn y gwaith, gyrfaoedd, dysgu oedolion yn y gymuned, dysgu yn y sector cyfiawnder, Cymraeg i Oedolion a hyfforddiant gwaith ieuenctid a chymunedol. Mae hi’n gyfrifol am thema drawsbynciol cyfiawnder a chynhwysiant cymdeithasol, ac mae’n arwain ar arolygu ysgolion arbennig; unedau cyfeirio disgyblion; ysgolion annibynnol ac ysgolion a cholegau annibynnol arbennig. Mae gan Jassa gyfrifoldeb hefyd am gydweithio rhyngom ni a chyrff arolygu, archwilio a rheoleiddio eraill.

Ymunodd Jassa ag Estyn yn 2007 gan weithio ym maes awdurdodau lleol, gwasanaethau cymorth ieuenctid ac ysgolion. Daeth yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol yn 2010, gan oruchwylio ysgolion arbennig, UCDau ac ysgolion annibynnol. Addysgwyd Jassa yn Ysgol Uwchradd Colne Valley ac ym Mhrifysgol Efrog. Bu’n athrawes mewn ysgolion cynradd, a bu’n gweithio mewn awdurdodau lleol.

Claire Morgan

Mae Claire yn arwain ar ddatblygu a gweithredu ein polisi arolygu ac atebolrwydd.  Mae’n goruchwylio arolygiadau ysgolion, gan gynnwys ysgolion cynradd, uwchradd, lleoliadau nas cynhelir a darparwyr addysg gychwynnol i athrawon.  Mae Claire hefyd yn arwain ein cymorth ar gyfer rhaglen diwygio addysg Llywodraeth Cymru, gan gynnwys datblygu’r cwricwlwm, dysgu proffesiynol a datblygu adnodd cenedlaethol ar gyfer gwella ysgolion.

Yn y gorffennol, roedd Claire yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer arolygiadau ysgolion uwchradd ac addysg gychwynnol i athrawon.  Roedd hi’n gyfrifol hefyd am weithredu ein strategaeth hyfforddi a datblygu, rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid a rhannu arfer effeithiol.

Ymunodd Claire ag Estyn yn 2006 fel AEM ar gyfer addysg uwchradd o’i swydd fel Dirprwy Bennaeth Ysgol Gymunedol y Porth. Dechreuodd ei gyrfa yn athrawes economeg ac astudiaethau busnes, cyn mynd yn uwch arweinydd mewn ysgolion uwchradd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf. Hefyd, mae Claire wedi cymryd rhan mewn gwaith ymgynghorol awdurdodau lleol a chydlynu darpariaeth 14-19. Mynychodd Claire Ysgol Gyfun Maesteg ac astudiodd ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr a Phrifysgol Caerdydd.

Cyfarwyddwyr Cynorthwyol

Liz Miles
Liz Miles

Mae gan Liz gyfrifoldeb ar y cyd am arolygiadau Estyn o ran ysgolion cynradd a meithrin ac adroddiadau thematig. Hefyd, mae’n arwain ar ddysgu proffesiynol, cyfiawnder cymdeithasol a chynhwysiant a rheoli gwybodaeth.  

Ymunodd Liz ag Estyn yn 2010 a bu’n cymryd rhan mewn amrywiaeth o waith arolygu, hyfforddi a gwaith thematig. Bu Liz hefyd yn arolygydd arweiniol cynradd a bu’n gweithredu fel y cyfarwyddwr cynorthwyol ar gyfer ysgolion annibynnol ac arbennig ac addysg ôl-16.

Er 1995, mae Liz wedi gweithio yn y sector cynradd yn bennaf, yn gyntaf fel athrawes ddosbarth, wedyn athrawes ymgynghorol, pennaeth ac ymgynghorydd.

Mererid Wyn Williams
Mererid Wyn Williams

Mae Mererid yn arwain ein tîm gwasanaethau corfforaethol yn Estyn. Mae’n goruchwylio ein swyddogaethau galluogi mewnol, sy’n amrywio o gydlynu arolygiadau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i gyllid ac adnoddau dynol. Mae hefyd yn gyfrifol am gyflwyno’r rhaglen arolygu Cymraeg i Oedolion.

Yn flaenorol, roedd hi’n gyfrifol am gyflwyno’r rhaglen arolygu lleoliadau meithrin nas cynhelir ac ysgolion cynradd, yn ogystal ag arwain ar bolisi arolygu a’r Gymraeg. Yn gynharach yn ei gyrfa, roedd hi’n AEM Rheoli dros dro ar gyfer addysg bellach, y Gymraeg ac addysg ddwyieithog ac yn arolygydd mewn amryw sector arall, gan gynnwys dysgu oedolion yn y gymuned. Yn dilyn secondiad byr i Estyn o Goleg Iâl, Wrecsam, lle bu’n Gyfarwyddwr Cynorthwyol Cyfadran y Celfyddydau, ymunodd Mererid ag Estyn yn ffurfiol yn 2005.

Mynychodd Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru (Prifysgol Glyndŵr erbyn hyn).

Catherine Evans

Mae Catherine yn arwain ar ddatblygu a gweithredu ein polisi arolygu ac atebolrwydd. Mae’n goruchwylio arolygiadau ysgolion, gan gynnwys ysgolion cynradd, uwchradd, lleoliadau nas cynhelir a darparwyr addysg gychwynnol i athrawon. Mae Claire hefyd yn arwain ein cymorth ar gyfer rhaglen diwygio addysg Llywodraeth Cymru, gan gynnwys datblygu’r cwricwlwm, dysgu proffesiynol a datblygu adnodd cenedlaethol ar gyfer gwella ysgolion.

Ymunodd Catherine ag Estyn yn 2009 gan gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o waith arolygu a thematig yn ymwneud ag ysgolion cynradd ac uwchradd ac addysg bellach, a bu’n arolygydd arwain ar gyfer y sector ysgolion uwchradd hefyd. Mynychodd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Prifysgol Manceinion a Phrifysgol Rhydychen.

Yn y gorffennol, bu Catherine yn gweithio mewn ysgolion yng ngorllewin canolbarth Lloegr ac yn ne Cymru.

Clive Phillips
Clive Phillips

Mae Clive yn gyfrifol am gyflwyno arolygiadau gwasanaethau addysg llywodraeth leol a chonsortia rhanbarthol ynghyd â gwaith arolygydd cyswllt awdurdodau lleol a chonsortia. Mae’n goruchwylio polisi’r Gymraeg, addysg cyfrwng Cymraeg a’n gwaith ar anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol. Mae mae hefyd yn gyfrifol am ein gwaith ymweliadau ymgysylltu.

Ymunodd Clive ag Estyn yn 2010 ac mae wedi gweithio’n bennaf yn y sectorau cynradd ac awdurdodau lleol. Yn ogystal, mae wedi arolygu ysgolion meithrin nas cynhelir, ysgolion arbennig ac ysgolion annibynnol. Yn y gorffennol, roedd yn bennaeth ysgol gynradd ac yn swyddog gwella ysgolion awdurdod lleol.

Mynychodd Clive Ysgol Gynradd Eglwyswrw, Ysgol y Preseli, a Phrifysgol Aberystwyth.

Jackie Gapper
Jackie Gapper

Mae Jackie yn gyfrifol am addysg bellach, dysgu oedolion yn y gymuned, dysgu yn y sector cyfiawnder a dysgu yn y gwaith. Mae Jackie yn cyd-oruchwylio ein cyngor i Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys adroddiadau arolygon a chyngor ar bolisi. Mae hi hefyd yn arwain ar adroddiad blynyddol y Prif Arolygydd a’n cymorth ar gyfer diwygio’r cwricwlwm.

Ymunodd Jackie ag Estyn yn 2009, a bu’n cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o waith arolygu a thematig yn ymwneud ag ysgolion uwchradd ac annibynnol ac addysg bellach. Bu hefyd yn arwain ar bolisi a chyngor ynghylch Saesneg a llythrennedd cyn 16 oed, a helpodd i ddatblygu’r rhaglen arolygwyr cymheiriaid. Mynychodd Jackie Ysgol Kingdown, Warminster, Ysgol Uwchradd Stroud a Phrifysgol Abertawe. Cyn ymuno ag Estyn, bu Jackie yn gweithio mewn ysgolion uwchradd yn ne Cymru.

Dyfrig Ellis
Dyfrig Ellis

Mae Dyfrig yn gyfrifol am arolygiadau yn gysylltiedig ag ysgolion arbennig; unedau cyfeirio disgyblion; ysgolion annibynnol ac ysgolion annibynnol arbennig, a cholegau annibynnol arbenigol. Hefyd, mae’n arwain ar ddiogelu a diwygio ADY a chyflwyno ein rhaglen hyfforddi a datblygu mewnol ac allanol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Ymunodd Dyfrig ag Estyn yn 2012 a bu’n cymryd rhan mewn amrywiaeth o waith arolygu, hyfforddi a gwaith thematig yn ymwneud ag ysgolion cynradd, lleoliadau nas cynhelir ac addysg a hyfforddiant cychwynnol athrawon. Yn 2017, daeth yn arolygydd arweiniol ar gyfer y sector nas cynhelir.

Mynychodd Dyfrig Ysgol Glan Morfa, Abergele, Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Llanelwy a’r Coleg Normal Bangor. Bu’n addysgu mewn sawl ysgol gynradd yn Ne Cymru, ac ef oedd pennaeth sefydlu Ysgol Tyle’r Ynn, Castell-nedd Port Talbot ym 1995 cyn symud i Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las yn Abertawe yn 2004.
 

Jonathan Cooper

Mae Jonathan yn gyfrifol am gyflwyno’r rhaglen arolygu lleoliadau nas cynhelir. Mae'n goruchwylio polisi blynyddoedd cynnar a'r Gymraeg mewn addysg. Mae hefyd yn gyd-gyfrifol am feysydd ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Ymunodd Jonathan ag Estyn yn 2015 ac mae wedi gweithio’n bennaf yn y sectorau nas cynhelir, cynradd ac awdurdodau lleol. Mae wedi bod yn arolygydd arweiniol yn y sectorau nas cynhelir a chynradd yn ogystal ag arolygydd cyswllt awdurdod lleol.

Mynychodd Jonathan Ysgol Gynradd Caedraw ac Ysgol Uwchradd Cyfarthfa ym Merthyr Tudful cyn cwblhau gradd cerdd a TAR ym Mhrifysgol Bangor. Cyn ymuno ag Estyn, bu’n gweithio’n bennaf yn y sector cynradd yn gyntaf fel athro ac yna pennaeth.

Rhidian Dafydd
Rhidian Dafydd

Wrth i’r fframwaith arolygu cyfredol ddod i ben ym mis Awst 2024, mae Rhidian yn gyfrifol am sicrhau y caiff fframwaith newydd Estyn ei gyflwyno’n llwyddiannus. Mae cylch gwaith Rhidian yn cwmpasu cylch oes cyfan rhaglenni, o’u diffinio i’w cyflwyno.

Ymunodd Rhidian ag Estyn yn 2022 ar ôl cyfarwyddo nifer o raglenni newid ar raddfa fawr yn S4C a Chanolfan Ganser Felindre gynt. Mae Rhidian hefyd yn aelod o Fwrdd Busnes yr Urdd.

Mynychodd Rhidian Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf cyn astudio gradd yn y Gyfraith yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL).

Cyfarwyddwyr Anweithredol

Dr Emyr Roberts

Bu’r Dr Emyr Roberts yn ymgymryd â nifer o swyddi uwch ar draws Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Gymreig trwy gydol ei yrfa, gan gynnwys Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Sgiliau. Ef oedd Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru cyn iddo ymddeol yn 2017, a bu’n arwain y broses i greu’r corff amgylcheddol newydd i Gymru a oedd integreiddiodd waith y sefydliadau gwaddol blaenorol. Mae hefyd yn Gadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth.

Maria Rimmer

Mae Maria Rimmer yn arweinydd ysgol sydd wedi ymddeol a chanddi brofiad helaeth yn gweithio ym maes rheoli a llywodraethu addysgol, a diddordeb brwd mewn cyfiawnder cymdeithasol a chysylltiadau cymunedol.

David Jones OBE

Ar hyn o bryd, David Jones OBE yw Cadeirydd Cymwysterau Cymru, yr Asiantaeth Electroneg a Chydrannau Amddiffyn (DECA), ac mae’n aelod o Fwrdd Apeliadau Cymru NSPCC Cymru. Ac yntau’n Beiriannydd Siartredig, mae gan David dros 30 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn Addysg bellach ac Addysg Uwch. Ers iddo ymddeol, mae’n gweithio mewn amrywiaeth o rolau anweithredol ac ymgynghori ar hyn o bryd.

Athro Charlotte Williams OBE

Mae’r Athro Charlotte Williams OBE yn academydd o fri, ac wedi dal nifer o rolau uwch arweinyddiaeth yn y sector Addysg Uwch. Yn ddiweddar, cadeiriodd yr adolygiad o Gymunedau Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol, Cyfraniadau a Chynefin yn y Cwricwlwm Newydd.

Athro Brett Pugh

Mae’r Athro Brett Pugh yn gyn-Bennaeth a Chyfarwyddwr Addysg yng Nghyngor Dinas Casnewydd. Cyn iddo ymddeol, roedd yn Gyfarwyddwr Addysg yn Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, mae’n athro gwadd ym Mhrifysgol De Cymru ac ef yw Cadeirydd y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Addysg Heblaw yn yr Ysgol.

Rhan o Pwy yw Pwy: Cyfarfyddwch â’r Prif Arolygydd a’i dîm