Gwaith rhyngwladol

Share this page

Bob blwyddyn mae Estyn yn rhannu arfer ac yn gweithio ar y cyd ag ystod o sefydliadau'r llywodraeth, arolygiadau a chyrff eraill sy'n ymwneud ag addysg y tu mewn a thu allan i Gymru er mwyn datblygu ein barn am systemau addysg ledled y Deyrnas Unedig a'r byd. Mae gwaith ar y cyd o'r fath hefyd yn datblygu ein dulliau ein hunain o arolygu a gweithio thematig, yn cefnogi ein cyngor i Lywodraeth Cymru, ac yn cefnogi gweithredu polisi'r llywodraeth.
Diweddarwyd y dudalen hon ar 22/10/2021
Publication date

Fel rhan o'n hymrwymiad i gefnogi gwelliant trwy weithio ar y cyd â'n cyfoedion yn rhyngwladol, rydym yn ymgysylltu'n rheolaidd ag Arolygiaethau'r DU ac Iwerddon a chydag arolygwyr addysg genedlaethol a rhanbarthol yn Ewrop sy'n aelodau o'r Gynhadledd Arolygiaeth Ryngwladol Sefydlog (SICI). Rydym yn elwa o'r gallu i ddysgu gan arolygiadau eraill a'u prosesau yn ogystal ag o'r cyfle i rannu a thrafod arfer gyda'n cyfoedion ac ymgymryd â phrosiectau ar y cyd mewn amgylchedd sy'n rhydd o bwysau domestig neu wleidyddol. 

Fel rhan o'r prosiect BIBESOIN (Archwiliad Gwell ar gyfer Cynhwysiant Cymdeithasol Gwell), wedi'i gyd-ariannu gan grant Erasmus+, mae Estyn yn gweithio ar y cyd â SICI a phartneriaid rhyngwladol eraill i rannu arfer ar wahanol ddulliau o archwilio sut mae ysgolion yn mynd i'r afael ag anfantais dysgwyr. Gyda'i gilydd, mae partneriaid y prosiect yn datblygu fframwaith ar gyfer archwilio dulliau ysgolion o fynd i'r afael ag anfantais.

Rhan o Ein gwaith