Presenoldeb ôl-16 yn parhau i fod yn her, er gwaethaf arwyddion o welliant  - Estyn

Presenoldeb ôl-16 yn parhau i fod yn her, er gwaethaf arwyddion o welliant 

Erthygl

Dau fyfyriwr yn edrych ar luniau ac yn eu trafod ar sgrin ryngweithiol fawr.

Mae adroddiad newydd gan Estyn a gyhoeddwyd heddiw yn canfod bod presenoldeb ymhlith dysgwyr ôl-16 yng Nghymru yn parhau i fod islaw disgwyliadau darparwyr, gyda chyfraddau presenoldeb ar draws dosbarthiadau chweched ysgolion a cholegau addysg bellach o tua 80% o’r sesiynau wedi’u hamserlenni, ar gyfartaledd, dros y tair blynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau o ran sut caiff presenoldeb ei gofnodi yn gwneud cymhariaeth genedlaethol ddibynadwy yn anodd. 

Maer’ adroddiad, Presenoldeb a chyfranogiad yn y sector ôl-16: Gwerthusiad o bresenoldeb, cyfranogiad ac arfer darparwyr ledled Cymru, yn ystyried presenoldeb a chyfranogiad ymhlith dysgwyr amser llawn rhwng 16 a 19 oed mewn dosbarthiadau chweched ysgolion a cholegau addysg bellach ledled Cymru. Mae’n archwilio patrymau presenoldeb, rhwystrau rhag bod yn bresennol ac effeithiolrwydd strategaethau darparwyr i wella ymgysylltiad dysgwyr.  

Canfu’r adolygiad nad oes dull cenedlaethol cyson ar gyfer mesur neu adrodd ar bresenoldeb ôl-16 ar hyn o bryd. O ganlyniad, nid yw’n bosibl cymharu ffigurau presenoldeb yn llawn ar draws darparwyr ac, mewn rhai achosion, nid yw prif ddata presenoldeb yn adlewyrchu presenoldeb corfforol dysgwyr mewn gwersi yn gywir. Mae’r anghysondebau hyn yn lleihau defnyddioldeb data presenoldeb ar gyfer meincnodi, hunanwerthuso a chynllunio gwelliant.  

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at amrywiad mewn presenoldeb ar draws gwahanol fathau o ddarpariaeth. Mae presenoldeb yn dueddol o fod yn gryfach ymhlith dysgwyr Blwyddyn 12 a’r rhai sy’n astudio cymwysterau Safon Uwch a rhaglenni galwedigaethol Lefel 3. Mae presenoldeb yn gyffredinol wannach ymhlith dysgwyr Blwyddyn 12, ar raglenni lefel is ac mewn elfennau gorfodol o ddarpariaeth, fel cyrsiau ailsefyll TGAU Saesneg a Mathemateg a sesiynau Bagloriaeth Cymru. Roedd dysgwyr yn fwy tebygol o fynychu gwersi roeddent yn eu gweld yn berthnasol i’w dilyniant yn y dyfodol a’u nodau gyrfa.  

Mae’r adroddiad yn nodi ystod o ffactorau sy’n cyfrannu at bresenoldeb is. Mae’r rhain yn cynnwys pryderon yn ymwneud â lles emosiynol, anawsterau trafnidiaeth, pwysau ariannol, cyflogaeth ran-amser, amgylchiadau teuluol a heriau yn gysylltiedig â rheoli’r annibyniaeth gynyddol a ddisgwylir mewn addysg ôl-16. Crybwyllodd darparwyr fod y ffactorau hyn yn aml yn gorgyffwrdd a bod angen cymorth teilwredig yn hytrach nag ymyrraeth unigol.  

Canfu arolygwyr hefyd fod dysgwyr yn rhoi gwerth uchel ar berthnasoedd cadarnhaol â staff, addysgu difyr a chymorth bugeiliol cryf. Roedd dysgwyr yn fwy tebygol o fynychu’n rheolaidd pan roeddent yn mwynhau eu cyrsiau, yn deall eu perthnasedd ac yn teimlo eu bod yn cael cymorth da.  

Roedd darparwyr a oedd yn cefnogi presenoldeb yn dda yn gosod disgwyliadau clir, yn nodi pryderon yn gynnar ac yn cynnig cymorth personoledig. Roeddent yn blaenoriaethu presenoldeb wyneb-yn-wyneb rheolaidd wrth ymateb yn sensitif i amgylchiadau unigol, gan gydnabod ei bwysigrwydd o ran datblygu perthnasoedd, medrau cymdeithasol a pharatoi ar gyfer cyflogaeth a bywyd fel oedolyn. 

Dywedodd Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Owen Evans: 

“Mae presenoldeb rheolaidd yn cefnogi cynnydd a lles dysgwyr ac yn eu paratoi ar gyfer astudiaethau neu gyflogaeth yn y dyfodol. Mae llawer o ddarparwyr yn gweithio’n galed i wella presenoldeb trwy ddisgwyliadau clir, cymorth bugeiliol cryf a dulliau sydd wedi’u teilwra i ddysgwyr unigol. 

“Fodd bynnag, mae presenoldeb yn parhau i fod yn is nag y mae darparwyr yn ei ddisgwyl, ac mae dysgwyr yn wynebu heriau cydgysylltiedig, gan gynnwys anawsterau trafnidiaeth, pwysau ariannol a phryderon yn ymwneud â lles. Byddai dull cenedlaethol mwy cyson o gofnodi presenoldeb yn rhoi darlun cliriach i ddarparwyr a’r rhai sy’n llunio polisïau ac yn cefnogi gwelliant ar draws y sector ôl-16.” 

Mae’r adroddiad yn argymell bod darparwyr yn cryfhau eu hymagwedd strategol at wella presenoldeb, yn defnyddio data presenoldeb yn fwy effeithiol ac yn cynnal disgwyliadau uchel ar gyfer presenoldeb. Mae’r adroddiad hefyd yn galw am fwy o gysondeb wrth gofnodi ac adrodd am bresenoldeb ledled Cymru ac yn argymell bod Medr a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r sector i ddatblygu dull cenedlaethol ar gyfer data presenoldeb ôl‑16.