Erthyglau newyddion |

Ni fydd Estyn yn arolygu ysgolion a gynhelir y flwyddyn academaidd nesaf - Datganiad gan Meilyr Rowlands, PAEM

Share this page

Hoffwn ddiolch i holl weithwyr y byd addysg am eich gwaith arbennig yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Ein nod pennaf fel arolygiaeth nawr yw cefnogi system addysg Cymru a chynnig tystiolaeth a chyngor annibynnol a gwrthrychol i Weinidogion y Llywodraeth.

Ataliwyd pob arolygiad craidd ac ymweliadau eraill cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Ar hyn o bryd, rydym yn cadw mewn cysylltiad â darparwyr addysg o bell, drwy alwadau ffôn a fideo. Mae wedi bod yn ddefnyddiol clywed sut mae ysgolion a darparwyr eraill yn cefnogi lles dysgwyr a staff a sut maen nhw'n delio â'r heriau presennol. Rydym hefyd wedi adleoli staff i Lywodraeth Cymru ac wedi cyfrannu at y rhaglen parhad dysgu (gweler y dolenni). Byddwn yn parhau i gadw mewn cysylltiad â darparwyr o bell pan fyddant ar gau ar gyfer addysg.

Ni fyddwn yn arolygu ysgolion a gynhelir y flwyddyn academaidd nesaf. Yn hytrach, ar ôl cyfnod ar gyfer addasu, bydd arolygwyr yn ymweld ag ysgolion i wrando ar bryderon ac i nodi'r hyn sy'n gweithio'n dda. Diben ein trafodaethau presennol a’r ymweliadau ymgysylltu hyn yw cael darlun cenedlaethol ac nid i farnu ysgolion unigol, ond i gasglu gwybodaeth am y system addysg yn ei chyfanrwydd, a mesur effaith uniongyrchol a thymor hir yr argyfwng coronafeirws ar ddysgu ac ar les disgyblion a staff. Byddant hefyd yn gyfle i adnabod a rhannu arferion arloesol ac effeithiol.

Ni fyddwn yn parhau ag ymweliadau monitro ffurfiol ar gyfer ysgolion a darparwyr eraill sydd angen camau dilynol. Er y byddai rhai ysgolion yn hoffi i ni wneud hynny, nid ydym yn credu bod hyn yn briodol o dan yr amgylchiadau presennol. Rydym eisoes wedi ysgrifennu at a ffonio darparwyr sydd wedi'u nodi fel rhai sy'n peri pryder i egluro beth fydd yn digwydd nesaf ac i gynnig cymorth.

Mae'n gyfnod ansicr, ac yr ydym wedi ymrwymo i fod yn gefnogol ac yn hyblyg yn y ffordd yr ydym yn casglu ac yn darparu gwybodaeth a chyngor i'r Llywodraeth. Byddwn yn addasu ein gwaith wrth i'r sefyllfa ddatblygu a sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth lawn am ein bwriadau. Byddwn hefyd yn gweithio gyda rhanddeiliaid o sectorau heblaw am ysgolion a gynhelir ar sut y byddwn yn addasu ein trefniadau ar eu cyfer am y flwyddyn sydd i ddod.

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein gwaith.

Meilyr Rowlands

Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru