Mewnwelediadau cynnar yn tynnu sylw at gryfderau mewn cymorth i ddysgwyr, ond mae addysgu a phresenoldeb yn heriau o hyd
Heddiw, mae Estyn wedi cyhoeddi ei fewnwelediadau cynnar o Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd 2025-26, yn amlinellu beth sy’n gweithio’n dda ar draws addysg a hyfforddiant yng Nghymru a lle mae angen gwella. Mae’r canfyddiadau’n cynnig cipolwg cynnar ar heriau a llwyddiannau ar lefel genedlaethol ar draws dau ar bymtheg o sectorau addysg a hyfforddiant, cyn cyhoeddi’r adroddiad llawn ym mis Chwefror 2027.
Mae’r canfyddiadau, sy’n deillio o ymweliadau arolygu a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn, yn tynnu sylw at berthnasoedd cryf, amgylcheddau cynhwysol a chymorth effeithiol i ddysgwyr fel meysydd cryf ar draws addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Fodd bynnag, mae amrywiad yn ansawdd yr addysgu, presenoldeb isel a gwendidau wrth werthuso effaith yn parhau i gyfyngu ar gynnydd gormod o ddysgwyr.
Nod yr adroddiad yw cefnogi darparwyr i wella eu lleoliadau eu hunain a chyfeirio at adroddiadau arolygu ac astudiaethau achos gan ddarparwyr a arolygwyd ac a ganfuwyd eu bod yn gwneud yn arbennig o dda. Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos sut mae darparwyr yn gwella addysgu a dysgu, yn datblygu medrau ac annibyniaeth dysgwyr, yn cryfhau cynhwysiant, yn gwella presenoldeb ac ymgysylltiad, ac yn defnyddio partneriaethau i gefnogi plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n dysgu.
Dywedodd Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Owen Evans:
“Ledled y wlad, rydym yn parhau i weld staff ymroddedig yn meithrin perthnasoedd cryf â phlant, pobl ifanc ac oedolion sy’n dysgu. Mewn llawer o leoliadau, mae’r perthnasoedd hyn yn sail i amgylcheddau cynhwysol a chefnogol lle mae dysgwyr yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn barod i ddysgu.
“Fodd bynnag, mae rhai o’r heriau a amlygwyd gennym y llynedd yn parhau i fod yn gyfarwydd dros ben. Mae ansawdd yr addysgu yn rhy amrywiol o hyd, ac mae gormod o ddysgwyr nad ydynt yn cael cyfleoedd digon heriol i ddatblygu a chymhwyso eu medrau. Mae presenoldeb hefyd yn bryder sylweddol o hyd ar draws addysg a hyfforddiant, gan gynnwys y tu hwnt i addysg orfodol, ac mae hyn yn parhau i effeithio ar rai o’n dysgwyr mwyaf bregus.
“Mae angen i ni weld ffocws cynaledig ar y meysydd hyn os yw pob dysgwr am elwa’n gyson ar addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel.”
“Mewn cyfnod o bwysau sylweddol ar addysg a hyfforddiant, mae’n arbennig o bwysig ein bod yn dysgu o’r hyn sy’n gweithio’n dda. Trwy rannu’r canfyddiadau hyn ar gyfer sectorau penodol nawr, hoffem helpu darparwyr i fyfyrio, dysgu o arfer gref a pharhau i adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio’n dda.”
Bydd adroddiad blynyddol llawn PAEF yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror ac yn cynnig cipolwg pellach ar flaenoriaethau addysg a hyfforddiant presennol yng Nghymru, gan roi rhagor o fanylion am ganfyddiadau arolygiadau, ynghyd â dadansoddiad o nifer o themâu ehangach, gan gynnwys effaith dysgu proffesiynol ar addysgu a dysgu, datblygu medrau Cymraeg mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg, a chefnogi dysgwyr sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).