Erthyglau newyddion |

Mae disgyblion yn hapusach ac yn iachach pan fydd llesiant wedi’i wreiddio ym mywyd yr ysgol

Share this page

Mae tua dwy o bob tair ysgol gynradd a thraean o ysgolion uwchradd yng Nghymru yn dda iawn am gynorthwyo disgyblion i fod yn hapus, yn iach ac yn ddiogel, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Estyn. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion eraill yn cefnogi disgyblion yn gryf mewn sawl agwedd, fodd bynnag nid yw’r gwaith yn ddigon cyson ar draws yr ysgol gyfan.

Yn yr ysgolion gorau, mae’r negeseuon a roddir am iechyd a llesiant mewn gwersi, gwasanaethau a pholisïau yn gyson â phrofiad disgyblion o ddydd i ddydd.  Mae lle i gymdeithasu, diwylliant anogol, cyfleoedd pleserus i fod yn weithgar yn gorfforol, gofal bugeiliol amserol a gwaith cadarnhaol gyda rhieni ymhlith rhai yn unig o’r dulliau sydd, gyda’i gilydd, yn sicrhau bod disgyblion yn datblygu’n unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau.  

Dywed Claire Morgan, Cyfarwyddwr Strategol,

 Mae’n hanfodol bod ysgolion yn defnyddio dull cysylltiedig o gefnogi iechyd a llesiant ar draws pob agwedd ar fywyd ysgol.  Hefyd, dylai ysgolion roi blaenoriaeth i gryfhau perthnasoedd rhwng athrawon a disgyblion a pherthnasoedd disgyblion â chymheiriaid, gan fod y rhain yn hollbwysig i iechyd meddwl a llesiant emosiynol.

Mae’r adroddiad yn amlygu sawl astudiaeth achos arfer dda, gan gynnwys ysgolion uwchradd lle nad yw profiad disgyblion o iechyd a llesiant bob amser yn cyfateb i negeseuon yr ysgol.  Fe wnaeth Ysgol Uwchradd y Dwyrain wella arweinyddiaeth yr ysgol, a gafodd effaith nodedig o gadarnhaol ar y diwylliant a’r gefnogaeth ar gyfer llesiant disgyblion.  Mae diwylliant yr ysgol yn nodi bod arbenigedd yr athro yn deillio o’i ddealltwriaeth o sut mae pobl ifanc yn dysgu, yn hytrach na dim ond ei wybodaeth am ei bwnc.

Mae diwylliant anogol, lle y mae perthnasoedd cadarnhaol yn galluogi disgyblion i ffynnu, yn bwysig i gryfhau iechyd a llesiant pobl ifanc.  Mae’r adroddiad yn argymell bod athrawon newydd yn cael eu hyfforddi i ddeall datblygiad plant a’r glasoed a’u bod yn cael eu paratoi i gefnogi iechyd a llesiant disgyblion.