Erthyglau newyddion |

Mae arweinyddiaeth gref a disgwyliadau uchel yn helpu meithrin a herio disgyblion sy’n fwy abl a thalentog

Share this page

Mewn ysgolion lle mae disgyblion mwy abl a thalentog yn cyflawni’n dda, mae disgyblion yn gwneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â sut a beth maent yn ei ddysgu, yn ôl adroddiad thematig a gyhoeddwyd heddiw gan Estyn. Yn yr ysgolion cynradd ac uwchradd hyn, mae arweinwyr yn sicrhau bod yr ysgol yn bodloni anghenion pob un o’r disgyblion ac yn cynnwys pob un o’r staff a’r rhieni.

Mae adroddiad Estyn, ‘Cynorthwyo disgyblion mwy abl a thalentog’ yn amlinellu’r modd y mae addysgu hynod effeithiol, partneriaethau allanol cryf a chyfleoedd i ddisgyblion ddysgu’n annibynnol yn galluogi ysgolion i ymestyn eu disgyblion mwy abl a thalentog yn llwyddiannus.

Dywed Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd,

Mae disgyblion ym mhob ysgol yng Nghymru sydd â galluoedd neu fedrau academaidd eithriadol o dda. Gallai rhai disgyblion ddangos dawn mewn meysydd fel celf, cerddoriaeth, drama neu chwaraeon, tra gallai disgyblion eraill ddangos medrau arwain, gwaith tîm neu entrepreneuraidd rhagorol. Rhaid i ysgolion ddarparu cyfleoedd estynedig ar draws y cwricwlwm i’r disgyblion mwy abl a thalentog hyn gyflawni eu llawn botensial.

Mae adroddiad heddiw yn defnyddio astudiaethau achos i arddangos dulliau arloesol o ysgogi a herio meddyliau ifanc o bob gallu.
 

Mae’r adroddiad yn amlygu Ysgol y Preseli a ddefnyddiodd arweiniad gan y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Plant Abl mewn Addysg i ddatblygu dull cyson ar draws yr ysgol o fodloni anghenion ei disgyblion mwy abl a thalentog. Mae creu rhaglen mentora disgyblion ar gyfer disgyblion mwy abl yng nghyfnod allweddol 3 yn eu cynorthwyo i ddatblygu eu medrau cymdeithasol ac academaidd. Mae’r dull hwn wedi cael effaith gref ar ddeilliannau disgyblion ers ei gyflwyno yn 2013.

Yn ogystal â nodi arfer effeithiol ac arloesol, mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu rôl bosibl awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol o ran darparu hyfforddiant ac arweiniad addas i alluogi ysgolion i fodloni anghenion disgyblion mwy abl a thalentog.

Astudiaethau achos

  • Evenlode Primary School, Bro Morgannwg
  • Langstone Primary School, Casnewydd
  • Treorchy Comprehensive School, Rhondda Cynon Taf
  • St Joseph’s RC High School, Casnewydd
  • Ysgol y Preseli, Sir Benfro
  • Llandrillo yn Rhos Primary School, Conwy