Mae Arolwg Blynyddol Estyn o Ganfyddiadau bellach ar agor! - Estyn

Mae Arolwg Blynyddol Estyn o Ganfyddiadau bellach ar agor!

Erthygl

Mae ein harolwg blynyddol o ganfyddiadau bellach ar agor! Am y drydedd flwyddyn yn olynol, rydym yn cynnal yr arolwg hwn, sy’n ceisio casglu barn ystod eang o unigolion a sefydliadau am ein gwaith.

Bydd yr ymatebion i’r arolwg yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach i ni o farn a chanfyddiadau cyrff allanol a phartneriaid am Estyn. Mae’n un o nifer o ffynonellau adborth a thystiolaeth rydym yn eu defnyddio i’n cefnogi yn ein hymdrechion parhaus i wella effaith ein gwaith.

Gellir cwblhau’r arolwg byr mewn 5–10 munud. P’un a oes gennych ychydig neu lawer i’w ddweud, bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall barn pobl amdanom yn well ac amlygu meysydd i’w gwella.

Bydd yr arolwg ar agor am 5 wythnos ac edrychwn ymlaen at glywed eich barn: https://online1.snapsurveys.com/Estyn-2026